Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Fel y credaf fod fy ateb i'w chwestiwn blaenorol wedi ceisio ei nodi, y system brofi, olrhain a diogelu a ddylai ymgymryd â'r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf. Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau mewn lleoliad ysgol y bydd penaethiaid bob amser yn eu hwynebu, o ran y gwahanol bwysau sy'n cystadlu. A dyna'n union pam y rhoddais ganllawiau i benaethiaid gynllunio, o fis Medi ymlaen, ar sail peidio â chael grwpiau cyswllt yn yr ysgol ac y bydd y broses o olrhain cysylltiadau'n cael ei gyrru gan y system brofi, olrhain a diogelu.