Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc pwysig hwnnw. Rwy'n bwriadu, yn y tymor nesaf, cyhoeddi strategaeth ynglŷn â'r hyn rydym ni'n ei wneud i sicrhau bod bywyd ysgol yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynrychiadol—hynny yw, ein bod ni yn edrych, er enghraifft, ar recriwtio, a beth yn fwy gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu'r gwahaniaethau cymdeithasol, fel petai. Rydym ni hefyd wedi sicrhau ein bod ni'n bwriadu—. Rydym ni wedi datgan ein bod ni'n bwriadu derbyn argymhellion grŵp yr Athro Charlotte Williams ar gynefin ac ati yn y cwricwlwm, oherwydd mae'r cynllun sydd ganddyn nhw yn dangos yn glir beth mwy gallwn ni ei wneud, ac rydym ni'n bwriadu cymryd y camau penodol hynny.