Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:39, 14 Gorffennaf 2021

A gaf fi eich hatgoffa chi ein bod ni wedi clywed hyn o'r blaen? Roedd eich rhagflaenydd chi'n sôn am gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, ond rydyn ni'n dal i ddisgwyl i weld y cynllun yna, ac i weld y cynllun yn cael ei roi ar waith. Felly, dwi yn gobeithio bod hwn yn mynd i fod yn flaenoriaeth gennych chi.

Mi fyddwch chi, fel fi, wedi cael eich brawychu gan yr hiliaeth hyll iawn sydd wedi wynebu tri o chwaraewyr du Lloegr ers y gêm bêl droed ddydd Sadwrn. Mae adroddiad 'Show Us You Care' gan Gynghrair Hil Cymru yn archwilio effaith gronnol hiliaeth ar bobl ifanc yn system addysg Cymru, ac mae'r canfyddiadau yn frawychus ac yn peri gofid mawr. Maen nhw'n dangos bod yna broblem wirioneddol yn ein hysgolion uwchradd ni, ond bod hiliaeth a bwlian hiliol yn digwydd yn y cynradd hefyd. Does yna ddim dwywaith bod hiliaeth yn bodoli yn ein system addysg ni yng Nghymru, a bod yn rhaid inni wynebu hynny, a thaclo hynny.

Yn eu hadroddiad nhw, mae Cynghrair Hil Cymru wedi cynnig cyfres o awgrymiadau ar sut i fynd i'r afael â'r broblem, yn cynnwys gwell mecanweithiau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau hiliol a'r angen i recriwtio a chefnogi addysgwyr o wahanol gefndiroedd ethnig. O ystyried yr adroddiad yma, a fedrwch chi amlinellu sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion? Ac a fyddwch chi yn gweithredu'r argymhellion sydd wedi cael eu cyflwyno gan Gynghrair Hil Cymru?