Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Mewn eiliad, byddaf yn nodi rhesymau dros fod yn fwy gobeithiol wrth ymdrin â'r drydedd don hon na'r rhai blaenorol, ond rwyf am i'r Aelodau fod yn gwbl sicr fod graddau'r lledaeniad yn y gymuned yn creu cyfres o beryglon gwirioneddol na ddylai unrhyw Lywodraeth na Senedd gyfrifol eu hanwybyddu. Dywed ein grŵp cyngor technegol bellach y bydd nifer yr achosion o'r haint yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn am weddill yr haf fan lleiaf. Bydd y lefel honno o ledaeniad y feirws yn cynyddu'r risg y bydd amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg; yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn dychwelyd i ysbytai, cartrefi gofal a lleoliadau caeedig eraill; yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn symud o bobl iau i bobl hŷn, gan ailadrodd patrwm tonnau 1 a 2; yn cynyddu nifer y bobl sy'n dioddef o COVID hir; yn cynyddu lefelau absenoldeb yn y gweithlu, gan gynnwys yn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu a'r gwasanaeth dilyniannu genomig, gan ei gwneud yn anos nodi amrywiolion newydd.
Felly, Lywydd, beth yw'r ffactorau sy'n gwrthbwyso? Wel, yn anad dim, mae brechu, ac yn enwedig ein cyfraddau brechu uchel yng Nghymru, yn newid ein perthynas â'r feirws, ac yn gwneud hynny'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU. Heddiw, mae mwy na 73 y cant o holl oedolion Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Y ffigur yn Lloegr a'r Alban yw 66 y cant, a 65 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r cynnydd yn nifer yr achosion wedi trosi'n gyfraddau uwch o salwch difrifol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau yn yr un modd ag y gwelsom yn ystod y don gyntaf neu yn y gaeaf, a hynny oherwydd y brechlyn. Hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i'r holl bobl sydd wedi gweithio mor galed i gynllunio a chyflawni'r rhaglen hynod lwyddiannus hon.
Yr ail ffordd y mae'r sefyllfa'n fwy addawol yn y drydedd don hon yw'r ffordd rydym wedi byw, ac mae hynny wedi gadael ôl-effaith gadarnhaol. Mae amcangyfrif wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi, o bedair gwlad y DU, mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o imiwnedd caffaeledig, a'i fod bellach yn 92 y cant o'r boblogaeth gyfan. Yn drydydd, mae gennym amddiffyniad y system profi, olrhain a diogelu. Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 3 Gorffennaf, cysylltwyd â 95 y cant o achosion cyfeirio cymwys o fewn 24 awr, a chafodd 93 y cant o'u cysylltiadau eu holrhain.
Lywydd, yn y cyd-destun hwnnw y mae'r Cabinet wedi cwblhau ein hadolygiad tair wythnos o'r cyfyngiadau coronafeirws. O ystyried yr holl ffactorau hyn—y rhai negyddol a'r rhai cadarnhaol ynghyd—ein hasesiad yw y gallwn symud ymlaen yn awr i set lawn o reoliadau lefel 1. Golyga hyn, o 17 Gorffennaf, o ddydd Sadwrn ymlaen, y bydd hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau; gellir cynnal digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl sy'n eistedd neu 200 o bobl ar eu traed, yn dilyn asesiad risg; a gall canolfannau sglefrio ailagor. A chredwn y gallwn fynd gam ymhellach wrth inni symud i'r lefel rhybudd 0 newydd, ac y byddwn yn gallu cyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd 0 o gyfyngiadau ar gyfer digwyddiadau ac ymgynnull yn yr awyr agored, hefyd o 17 Gorffennaf. Byddwn felly'n cael gwared ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael ymgynnull yn yr awyr agored. Bydd gan safleoedd a digwyddiadau awyr agored fwy o hyblygrwydd gyda mesurau cadw pellter corfforol. Fodd bynnag, bydd hyn yn parhau i fod yn un o'r mesurau lliniaru i'w hystyried wrth gynnal a gweithredu asesiadau risg. Gallwn wneud hyn am ein bod wedi dod i'r casgliad ers tro fod y risg o drosglwyddo'r feirws yn yr awyr agored yn llawer is na'r hyn ydyw dan do, a chan fod angen inni fanteisio ar gyfnod yr haf. Ar yr un pryd, o 17 Gorffennaf, bydd y rheoliadau hefyd yn newid i ganiatáu i hyd at 30 o bobl o sefydliadau fel yr Urdd, y Brownis neu'r Sgowtiaid fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf.