Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau adeiladol iawn hynny. Gwnaf fy ngorau i ateb pob un ohonynt yn fyr. Ar yr amod fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau fel y mae, y cyfyngiadau rwyf wedi'u hamlinellu'r prynhawn yma, fel y'u nodwyd yng nghynllun rheoli'r coronafeirws, yw'r cyfyngiadau a ragwelwn. Nid wyf yn rhagweld mwy na hynny, ond mae hynny'n ddibynnol ar fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod mor galonogol â'r hyn ydyw heddiw.
O ran gorchuddion wyneb, byddwn yn defnyddio'r un set o brofion â'r rhai rydym wedi'u nodi mewn fersiynau blaenorol o gynllun rheoli'r coronafeirws, a golyga hynny nad ydym yn dibynnu ar un mesur, rydym yn dibynnu ar set gyflawn o fesurau sy'n cynnwys nifer yr achosion yn y gymuned, cyfraddau positifrwydd, i ba raddau y mae salwch yn troi'n effaith ar yr ysbytai ac ati. Felly, bydd yn set gyflawn o fesurau, sydd gyda'i gilydd yn dweud wrthym a yw'r feirws wedi'i atal yn ddigonol i ganiatáu inni symud y tu hwnt i orchuddion wyneb gorfodol. Er y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol mewn lleoliadau dan do, dywedais yn fy natganiad ein bod yn cael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn lletygarwch, yn cael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn lleoliadau addysg, a hoffem gael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn rhagor o leoliadau dan do, fel y bydd sefyllfa'r coronafeirws yn caniatáu.
Mewn perthynas â hunanynysu, Lywydd, nid wyf yn credu imi ddweud bod angen i'r system brofi, olrhain a diogelu wella. Dywedais fod angen iddi ddiwygio'i hun. Bydd yn newid o system lle mae'r alwad a gewch gan weithiwr profi, olrhain a diogelu yn un sy'n dweud wrthych eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif ac felly fod gofyn i chi hunanynysu i'r hyn a elwir yn system 'rhybuddio a hysbysu'. Felly, bydd angen i'r sgript ar gyfer holl weithwyr ein system brofi, olrhain a diogelu newid. Byddant yn dal i ddarparu'r cyngor gorau posibl i bobl sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif. Byddant yn archwilio amgylchiadau'r unigolyn gyda hwy, oherwydd efallai y bydd pobl sydd wedi cael dau frechlyn ond sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sylweddol yn awyddus i barhau i roi rhai camau ar waith i ddiogelu eu hunain os ydynt wedi dod i gysylltiad â rhywun sy'n bendant yn dioddef o'r feirws.
Bydd newid i system 'rhybuddio a hysbysu' yn cymryd ychydig wythnosau. Mae'n rhaid newid sgriptiau, mae'n rhaid ailhyfforddi pobl i'w wneud, ac rydym am fod mewn sefyllfa lle mae gan y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu fynediad at gofnodion brechu unigolion. Ni all fod yn system hunanardystio'n unig. Ni allwn gael system brofi, olrhain a diogelu sy'n gofyn i chi, 'A ydych wedi cael eich brechu ddwywaith?' a'r cyfan sy'n digwydd yw eich bod yn dweud 'ydw', ac yna mae'n gofyn, 'Ac a oedd hynny fwy na phythefnos yn ôl?' ac rydych yn dweud 'oedd' eto a dyna'r unig wiriad yn y system. Er mwyn ennyn hyder y cyhoedd yn y system, mae'n rhaid bod mwy iddi na hynny, ac mae'n rhaid cynllunio hynny o fewn y system hefyd. Bydd hynny'n cymryd ychydig wythnosau.
Mae asesiadau risg yn orfodol nawr, Lywydd. Maent yn orfodol o dan ein rheoliadau coronafeirws, ac maent yn orfodol o dan reoliadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd, a byddwn yn parhau i'w cynnal yn y ffordd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn, nad yw'n asesiad syml, unffurf, sydd yr un fath ym mhobman. Yn anochel, mae'r ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch gweithwyr a defnyddwyr unrhyw weithle yn amrywio yn ôl natur y gweithle ei hun.
Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i mi beth y mae'r model yn ei ddangos. A'r hyn y mae'r model yn ei ddangos, Lywydd, yw bod yr effaith ar y gwasanaeth iechyd yn hynod sensitif i newidiadau mewn o leiaf ddau o'r ffactorau sy'n weithredol—mae'n hynod sensitif i'r graddau fod y brechlyn yn amddiffyn rhag y feirws. A newid o 2 neu 3 y cant yn unig yn effeithiolrwydd y feirws yw'r gwahaniaeth rhwng bod nifer fawr o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu beidio.
A'r ail newidyn yw'r graddau y mae pobl yn parhau i ddilyn yr holl gamau bach ond synhwyrol y gofynnwn i bobl eu cymryd yn eu bywydau eu hunain. Os bydd pobl yn parhau i wneud eu gorau i edrych ar ôl eu hunain ac eraill, fel y mae pobl wedi'i wneud yng Nghymru, bydd hynny'n lleihau nifer y bobl sydd angen mynd i'r ysbyty. Os yw pobl yn ymddwyn fel pe bai'r coronafeirws wedi diflannu, ac fel pe na bai unrhyw risg iddynt hwy eu hunain nac i eraill, bydd hynny'n arwain at fwy o niferoedd yn y sector ysbytai. Ar ben gwell y sbectrwm hwnnw felly, gellir rheoli'r effaith ar y GIG, er bod y GIG mor brysur gyda phopeth arall y mae'n ceisio ei wneud. Os byddwn yn cyrraedd pen arall y sbectrwm, byddwn yn ôl yn y sefyllfa roeddem ynddi yn y gaeaf, gyda nifer fawr iawn o bobl angen gofal mewn ysbyty, a'r holl effaith y byddai hynny'n ei chael ar allu'r GIG i barhau i wneud yr holl bethau eraill hynny.
Ar fater cynnydd sydyn mewn achosion—rydym wedi dibynnu ar fesurau cenedlaethol ers dechrau'r flwyddyn, a chredaf fod hynny wedi bod o fudd i ni o ran symlrwydd cyfathrebu, a gallu pobl i wneud yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Ac ar hyn o bryd, credaf mai dyna fydd y brif ffordd y byddwn yn mynd i'r afael â phethau. Rydym wedi cael mesurau lleol. Rydym wedi cael mesurau lleol yn Rhondda Cynon Taf ac ym Merthyr Tudful; rydym wedi cael mesurau lleol mewn rhannau o ogledd Cymru. Ond maent yn ategol i'r dull cenedlaethol o weithredu, yn hytrach na'u bod ar waith yn ei le.
A'r cwestiwn olaf y gofynnodd Andrew R.T. Davies i mi oedd a fydd y brechlyn yn newid y camau y byddai angen i ni eu cymryd. Wel, ar yr amod fod y brechlyn yn parhau i fod mor effeithiol ag y mae ar hyn o bryd, yn erbyn amrywiolyn Caint ac amrywiolyn delta, yna'r ateb, yn bendant, fyddai, 'Bydd, bydd gennym amddiffyniad llawer cryfach.' Pe byddem yn y sefyllfa anffodus iawn lle byddai amrywiolyn arall yn dod i'r amlwg, a lle na fyddai'r brechlyn yn darparu amddiffyniad effeithiol yn ei erbyn, wel, yn anochel, byddai'n rhaid inni drefnu mesurau eraill am na fyddai'r brechlyn yn darparu'r amddiffyniad y mae'n ei ddarparu ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid inni obeithio y bydd y brechlyn yn parhau i fod yn effeithiol, a bydd yr ymgyrch atgyfnerthu sydd wedi'i chynllunio gennym ar gyfer yr hydref yn sicr o fod o gymorth yn y cyswllt hwnnw.