Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Mudiad Ysgolion Meithrin, sydd yn cael ei alw erbyn hyn yn Mudiad Meithrin, ar ddathlu ei hanner can mlwyddiant? Mae hyn yn dipyn o garreg filltir i'r mudiad pwysicaf sydd gyda ni yng Nghymru o ran darparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sefydlwyd Mudiad Meithrin 50 mlynedd yn ôl i wneud dau beth: i gynrychioli a rhoi llais i'r ysgolion meithrin cyfrwng Cymraeg a oedd wedi dechrau ymddangos yn y 1960au ac i ymgyrchu dros ddarparu profiad ysgol feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Cymru ym mhob cwr o'r wlad. Pennaf nod Mudiad Meithrin heddiw yw gweld y cylch meithrin fel profiad pwysig yn ei hawl ei hun, gyda phwyslais ar ddysgu drwy chwarae, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Heddiw, mae gan y mudiad dros 1,000 o leoliadau dros Gymru gyfan, yn cynnwys cylchoedd meithrin, cylchoedd ti a fi, meithrinfeydd dydd, grwpiau Cymraeg i blant ac yn y blaen. Ac mae rhyw 22,000 o blant yn manteisio ar wasanaethau'r mudiad yn wythnosol, a miloedd o oedolion yn rhieni, hyfforddeion a phrentisiaid. A pham? Oherwydd bod y mudiad yn gwybod fel ffaith bod unigolion sy'n dechrau siarad Cymraeg yn blant yn llawer mwy tebygol o fod yn oedolion sy'n hyderus yn siarad yr iaith. Mae bron i 90 y cant o blant yn mynd o'r cylch i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae cymaint ohonyn nhw'n dod o gartrefi di-Gymraeg.
Felly, gaf i ddymuno'n dda i'r mudiad dros y blynyddoedd nesaf wrth iddo wneud cyfraniad pwysig i roi sylfeini ieithyddol cadarn i'n plant a rhoi cyfleoedd chwarae ac addysg bwysig iddyn nhw yn y dyfodol? Pen-blwydd hapus iddyn nhw. Diolch yn fawr.