1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Medi 2021.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn diwygio sut y mae gofal cymdeithasol yn cael ei gyllido? OQ56834
Diolchaf i Hefin David, Llywydd, am hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio eglurder ar gyfres o faterion sydd y tu ôl i benawdau cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Mae hynny yn cynnwys faint o gyllid sydd ar gael i Gymru ac, yn bwysig iawn, y driniaeth o achosion trawsffiniol. Bydd ein grŵp gweinidogol talu am ofal, fel y clywsoch, yn ailymgynnull i gyflwyno cynigion ar gyfer Cymru.
Dywedaf yn barchus wrth y Prif Weinidog y byddai wedi bod o gymorth, efallai, i gael datganiad llafar yn y Siambr y prynhawn yma ar hyn, o gofio iddo gael ei godi gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn y gynhadledd i'r wasg a bod datganiad ysgrifenedig wedi ei gyhoeddi, ac rwy'n credu yn anad dim oherwydd mai yswiriant gwladol yw'r ffordd fwyaf atchweliadol o ariannu gofal cymdeithasol ychwanegol, a byddwn i wedi hoffi clywed y Ceidwadwyr, oherwydd gwn fod gan rai ohonyn nhw amheuon am hyn—. Hoffwn i glywed eu barn ar y ffordd hon o ariannu gofal cymdeithasol. Mae ffordd well o'i wneud, ac rydym ni eisoes wedi clywed arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio at ardoll Holtham, yr wyf i eisoes wedi dweud y byddai wedi bod yn ffordd well o lawer o'i wneud. Ac rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n teimlo rhwystredigaeth na all hynny ddigwydd. Rwy'n credu ein bod ni'n gweld cyfyngiadau'r setliad datganoli bellach, ac mae angen ei newid yn sylweddol.
A allwch chi sicrhau bod pob ceiniog sy'n dod o'r cynnydd hwn yn cael ei chyfeirio i ofal cymdeithasol yng Nghymru? A allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw? A gallwn ni weld bod adolygiad gwariant Llywodraeth y DU wedi ei drefnu ar gyfer 27 Hydref. Pa mor fuan ar ôl hynny y byddwn ni wedyn yn gwybod manylion cynlluniau Llywodraeth Cymru?
Llywydd, mae Hefin David yn cyfeirio at ddiffyg parhaus pwysig iawn yn y setliad. Mae gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr sicrwydd bellach ynghylch faint o arian y bydd ganddyn nhw am weddill y flwyddyn ariannol hon ac yn y flwyddyn ariannol nesaf. Nid oes gan yr un Llywodraeth ddatganoledig yr un sicrwydd. Ni fyddwn ni'n gwybod tan 27 Hydref faint o arian fydd yn dod i Gymru. Rydym ni'n gwybod beth yw cyfanswm cynnyrch y cyhoeddiadau diweddar, ond yr hyn nad ydym ni'n ei wybod yw pa benderfyniadau eraill fydd yn cael eu gwneud o fewn Llywodraeth y DU a fyddai'n arwain at symiau canlyniadol Barnett negyddol. Felly, rydym ni yr un mor debygol o golli arian ar gyfer penderfyniadau eraill ag yr ydym ni wedi bod o gael arian drwy hyn. Nid yw hynny'n wir i'r Adran Iechyd yn Lloegr. Maen nhw bellach yn gwybod, pa bynnag benderfyniadau gwario eraill sy'n cael eu gwneud, eu bod nhw'n sicr o gael yr arian a gyhoeddwyd. Ni fyddwn ni'n gwybod hynny. Ni fyddwn yn ei wybod tan ar ôl 27 Hydref, ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am annhegwch hynny.
Nawr, y llynedd cafodd hynny ei liniaru yn rhannol gan Ganghellor y Trysorlys, oherwydd iddo roi sicrwydd cyllid cyffredinol i Gymru, i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon, ac fe wnaethom ni groesawu hynny gan ei fod yn datrys rhywfaint o'r ansicrwydd hwn i ni. Nid yw wedi bod yn barod i wneud hynny eleni ac, o ganlyniad, ni fydd gennym ni'r sicrwydd y gofynnodd yr Aelod amdano tan y byddwn ni'n gwybod am yr arian a fydd yn dod i Gymru a phenderfyniadau eraill. Bydd yr Aelodau yma yn cofio'r penderfyniad cwbl wrthnysig a wnaed o ran cymaroldeb Barnett yng nghyswllt cynllun HS2, pan na chynigiwyd unrhyw gymaroldeb o gwbl i ni, er gwaethaf y ffaith ei fod yn cael effeithiau uniongyrchol arnom ni yng Nghymru. Byddwn yn gwylio am benderfyniadau pellach o'r fath dros yr wythnosau nesaf, ac yna ar ôl 27 Hydref, pan fyddwn ni'n gwybod beth sydd gennym ni mewn gwirionedd ar gyfer iechyd, ar gyfer gofal cymdeithasol ac ar gyfer y cyfrifoldebau pwysig iawn eraill y mae'r Senedd hon yn eu cyflawni, wrth gwrs byddwn yn dychwelyd i'r llawr yma gyda chynigion y Llywodraeth.