Hysbysiadau Cosb Benodedig

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:30, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mater i bob awdurdod yw penderfynu ar eu polisi a'u dull o ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig yn lleol. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn offeryn allweddol wrth fynd i'r afael â nifer o droseddau ac rydym yn cefnogi eu defnydd fel ymateb i droseddau amgylcheddol lefel isel a throseddau eraill. Yn 2019 a 2020, cyhoeddodd awdurdodau lleol 11,091 hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â materion diogelu'r amgylchedd lleol.