Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch, Weinidog. Caiff nifer o hysbysiadau cosb benodedig eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol nad ydynt o'r farn fod unrhyw rwymedigaeth i fuddsoddi arian a godir drwy ddirwyon er mwyn atal troseddau o'r fath rhag digwydd eto. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sydd ar gynnydd yn ddiweddar ledled Cymru ac mae wedi bod yn broblem mewn sawl rhan o fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mater arall yw hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu rhoi i bobl sy'n cerdded eu cŵn ar draethau sy'n gwahardd cŵn ar hyd llwybr arfordir sir Benfro a sir Gaerfyrddin. A gaf fi annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y mae awdurdodau lleol yn clustnodi'r arian a godir drwy hysbysiadau cosb benodedig i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar wella a mynd i'r afael â chyfleusterau penodol i helpu i newid ymddygiad yn hytrach na chael ei golli ym mhot gwariant cyffredinol y cyngor?