Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:40, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym bob amser wedi dweud y byddwn yn ceisio datganoli pwerau i'r lefel lywodraethu gywir, ac yn sicr, mewn rhai meysydd, gallem geisio datganoli rhagor o bwerau o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Ond eto, os yw hwn yn faes penodol lle daw syniadau gan CLlLC mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed y syniadau a'r pryderon y maent yn eu rhannu.