Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, ddechrau mis Gorffennaf, galwodd arweinwyr 22 awdurdod lleol Cymru ar Lywodraeth Cymru i adolygu pwerau a chylch gwaith y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd yma yng Nghymru—Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac fel y gwyddoch, cododd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, y mater hwn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf hefyd, a chroesawodd y Gweinidog yr adborth gan CLlLC gan nodi y byddai'n parhau i drafod gyda CLlLC a Cyfoeth Naturiol Cymru drwoch chi fel y Gweinidog llywodraeth leol. Felly, rwy'n gobeithio bod y trafodaethau hynny'n mynd yn dda. Ond a ydych yn credu bod gallu gan y cynghorau i gyflawni rhai o'r pethau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd?