Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Medi 2021.
Wel, diolch i chi am hynny. Efallai ein bod ni ddim yn gwybod faint sy'n dod i Gymru, ond rydyn ni yn gwybod bod yna gost sylweddol yn mynd i fod i gyflogwyr ac awdurdodau lleol. Un agwedd o'r sector cyhoeddus yw hwnnw, wrth gwrs. Gallwch chi luosi hynny ar draws gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd. Felly, buaswn i'n eich annog chi i ystyried cefnogaeth ychwanegol yn benodol ar hynny.
Nawr, fel cymdeithas, wrth gwrs, rydyn ni wedi dirprwyo gofal, onid ydym, i'r rhai ar y lefel isaf o dâl yng Nghymru, a'r rhai, yn aml iawn, sy'n cael y gefnogaeth leiaf hefyd, a gall hynny ddim parhau. Mae tua 64,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Pob un ohonyn nhw, yn ein barn ni, yn haeddu'r tâl a'r amodau sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y rôl maen nhw'n ei chyflawni ar ran cymdeithas. Rydyn ni fel plaid, wrth gwrs, wedi bod yn galw ar i holl ofal cymdeithasol fod yn rhad ac am ddim ar y pwynt ble mae ei angen e; hefyd, i gyflwyno isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal; a hefyd i sifftio cyllideb iechyd a gofal tuag at fuddsoddiadau ataliol a fyddai, wrth gwrs, yn trawsnewid y gofynion o fewn y system iechyd yn y tymor hirach. Nawr, mae'r gost o weithredu'r polisïau yna yn fforddiadwy, ond, wrth gwrs, mae angen yr ewyllys gwleidyddol i wneud i hynny ddigwydd.
Fe gyhoeddwyd ddoe y bydd grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol yn cwrdd eto yng ngoleuni cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan. Felly, a gaf i ofyn beth fydd sgôp y grŵp hwnnw? Efallai y gallwch chi ymhelaethu ychydig ar hynny inni. A hefyd, a allwch chi fod yn glir ai dim ond ystyried talu am ofal yn unig y bydd y grŵp yna? Neu, a fydd yna drafodaeth ynglŷn â sut y mae modd defnyddio'r arian yna i wella ansawdd y gofal a lles y gweithlu? Oherwydd neges arall rydyn ni'n ei chlywed o gyfeiriad awdurdodau lleol yw, ydy, mae'r pres yn broblem, ond mae pobl yn broblem hefyd. Ac mae diffyg yn y gweithlu gymaint o risg i'r gwasanaeth ag yw'r diffyg arian.