Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:50, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r gwaith a wnaed gan y pwyllgor yn y Senedd ddiwethaf a oedd yn argymell datganoli gwahanol agweddau ar y broses o weinyddu lles a'r system fudd-daliadau yma yng Nghymru. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn fod yn edrych arno. Credaf fod angen inni ddeall natur y gweithlu yma yng Nghymru yn well er mwyn deall effeithiau unrhyw newidiadau ar gyfraniadau yswiriant gwladol o ran proffil y gweithwyr sydd gennym yma, os mynnwch. Ond yn amlwg, mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno ochr yn ochr â'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud yn sgil yr ymateb i'r adroddiad hwnnw, a oedd yn argymell ein bod yn archwilio datganoli gwahanol agweddau ar les a budd-daliadau.