Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Medi 2021.
Gan obeithio hefyd y bydd yna newid gêr o safbwynt pa mor gyflym mae rhai o'r materion yma yn cael eu datrys, oherwydd, fel rydych yn ei ddweud, mae yna broblemau ac mae yna bwysau immediate sydd angen delio â nhw, yn ogystal â'r cwestiynau strwythurol mwy hirdymor.
Fe gyfeirioch chi yn gynharach at rai o'r grwpiau a'r sectorau fydd yn cael eu heffeithio'n negyddol gan benderfyniad Llywodraeth San Steffan i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, ac efallai leiciwn i glywed rhai o'ch syniadau chi nawr ynglŷn â sut fyddwch chi fel Llywodraeth yn trio unioni'r effeithiau negyddol yna ar y rheini fydd yn cael eu heffeithio yn anghymesur. A hefyd, wrth gwrs, fel sy'n cael ei wneud yn yr Alban, mae'n amser inni yng Nghymru adeiladu'r achos dros ddatganoli pwerau dros yswiriant gwladol i'r Senedd yma, yn hytrach na gadael i San Steffan gyflwyno'r newidiadau mewn ffordd fydd yn niweidiol i nifer o bobl yma yng Nghymru. Nawr, fe gytunodd y Prif Weinidog gydag Adam Price fan hyn yn y Siambr ddoe y byddai datganoli yswiriant gwladol yn cynnig offeryn defnyddiol i Lywodraeth Cymru. Ac os dwi’n cofio’n iawn, mi ddwedodd ei fod e wedi dadlau y byddai hynny wedi bod yn fwy defnyddiol na datganoli treth incwm. Felly, gaf i ofyn beth yw’ch barn chi, fel Gweinidog cyllid, ynglŷn â’r angen nawr i fod yn gryf ar ddatganoli yswiriant gwladol, a hefyd pa achos ŷch chi’n ei wneud i hyrwyddo hynny gyda Llywodraeth San Steffan?