1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Medi 2021.
5. Pa asesiad o'r goblygiadau treth i Gymru y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bolisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU? OQ56832
Er ein bod yn barod i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU ar y mater hwn, nid ydym wedi derbyn cynnig ffurfiol o hyd gan Lywodraeth y DU i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru. Felly, heb unrhyw fanylion, ni allwn asesu goblygiadau treth y polisi yn llawn.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ond nid yw'n peri syndod i mi o gwbl. Rwyf wedi nodi'n gyhoeddus fy amheuon ynghylch porthladdoedd rhydd. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â'r ddadl economaidd, ac mae gennyf bryderon yn ymwneud â'r amgylchedd, yn ogystal ag unrhyw safonau llafur sy'n dod law yn llaw â hynny. Ond yr hyn rwy'n sicr ohono, fodd bynnag, yw na ddylai Cymru fod ar ei cholled, mae'n rhaid sicrhau nad yw ein porthladdoedd strategol allweddol fel Aberdaugleddau dan anfantais, ac ni ddylai Llywodraeth y DU orfodi polisïau arnom. Felly, a wnaed unrhyw gynnydd ar y materion hyn ers mis Gorffennaf, sef y tro diwethaf i chi amlinellu'r manylion—neu'r diffyg manylion—a roddwyd gan Weinidogion y DU?
Ni wnaed unrhyw gynnydd gwirioneddol ers mis Gorffennaf, yn anffodus. Ac mewn rhwystredigaeth, ym mis Awst, ysgrifennais lythyr ar y cyd â Gweinidogion o’r Llywodraethau datganoledig eraill at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am gyfarfod brys ar borthladdoedd rhydd, ac rwy’n siomedig iawn nad ydym wedi derbyn ymateb i'r llythyr hyd yn hyn, ac yn siomedig, mewn gwirionedd, gyda’r diffyg ymgysylltu yn gyffredinol gan Lywodraeth y DU ar y polisi hwn. Fel y dywedaf, rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU ar borthladdoedd rhydd, er ein bod yn rhannu pryderon Joyce Watson ynghylch dadleoli gweithgarwch, er enghraifft.
Mae tri pheth yn wirioneddol bwysig os ydym am weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn, a'r cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniadau ar y cyd â Llywodraeth y DU ynglŷn â ble fydd y porthladdoedd hynny a beth fydd paramedrau'r cytundeb—amodoldeb, oherwydd, fel Joyce Watson, rydym yn wirioneddol bryderus am effaith bosibl porthladdoedd rhydd ar safonau. Felly, mae'n bwysig fod unrhyw borthladdoedd rhydd yng Nghymru yn adlewyrchu ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau mewn perthynas â safonau amgylcheddol, ond hefyd gwaith teg, er enghraifft. Ac yn hanfodol, mae'n bwysig ein bod yn derbyn setliad cyllido teg. Felly, yn amlwg, mae hon yn ymyrraeth sy'n seiliedig ar leoedd nad yw swm canlyniadol Barnett yn briodol ar ei chyfer. Ni fyddai’n briodol i Lywodraeth y DU wario £25 miliwn ar borthladd rhydd yn Lloegr, a dim ond £8 miliwn yng Nghymru, heb unrhyw reswm gwell na'u bod yn credu bod cyfran Barnett yn briodol.
Weinidog, gweithgynhyrchu sydd i gyfrif am 10 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros y DU, sydd ymhlith yr isaf o'r holl wledydd yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Gall cynyddu gweithgynhyrchu hybu enillion cenedlaethol, a gwerth porthladdoedd rhydd yw eu gallu i hybu gweithgarwch economaidd a chreu cyfleoedd gwaith newydd mewn ardaloedd difreintiedig. Nododd adroddiad gan ymgynghoriaeth Mace y gallai porthladdoedd rhydd roi hwb o £12 biliwn y flwyddyn i fasnach, sicrhau cynnydd o £9 biliwn y flwyddyn yng nghynnyrch domestig gros y DU a chreu 150,000 o swyddi newydd. Gwn eich bod newydd grybwyll tri phwynt yn eich ateb blaenorol ar yr hyn roeddech yn awyddus i'w wneud a'i gyflawni, ond a ydych yn derbyn, Weinidog, y bydd unrhyw ostyngiad cychwynnol mewn refeniw trethi a achosir gan borthladdoedd rhydd yn cael ei wrthbwyso gan fuddion mwy o weithgarwch economaidd mewn ardaloedd difreintiedig, mwy o swyddi a mwy o fasnach, gan dyfu'r economi gyfan drwy hynny? Diolch.
Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, gan nad ydynt wedi ymateb eto i'r llythyr a anfonwyd gennym fis Awst yn gofyn am y cyfarfod brys hwnnw. Ond credaf ei bod yn deg dweud y byddai unrhyw fath o ymrwymiad penagored gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfatebol i gynnig Llywodraeth y DU o ran ardrethi annomestig a threth dir y dreth stamp, neu dreth trafodiadau tir fel y'i gelwir yng Nghymru, yn peri risg i refeniw trethi Cymru hyd nes y cawn y trafodaethau hynny i gael gwell dealltwriaeth o'r polisi y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei roi ar waith. Ac rydym yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny, ond hyd yma, nid ydym wedi cael ateb i lythyr syml hyd yn oed.