Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:38, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf fod y berthynas sydd gan gynghorau â Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd yn ddefnyddiol iawn gan fod y ddwy ochr yn rhannu awydd i sicrhau bod ein hamgylchedd a'n hagwedd tuag at y newid hinsawdd yn ganolog i'r ddwy agenda—mae yna agendâu y maent yn eu rhannu. Ond os oes gan fy nghyd-Aelod unrhyw bryderon penodol, rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hwy gyda CNC neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel sy'n briodol.