1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Medi 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i gynllunio datblygu strategol ac economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56829
Rydym yn cynnal adolygiad llawn a chynhwysfawr o wariant ar gyfer rhaglenni buddsoddi cyfalaf ledled Cymru. Bydd yn ystyried yr holl gostau sy'n gysylltiedig â chynllunio datblygiad strategol ac economaidd ac yn bwydo i'n strategaeth seilwaith a buddsoddi newydd i Gymru y byddaf yn ei chyhoeddi gyda'r gyllideb ym mis Rhagfyr.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr nid ydym yn credu bod Cymru yn cael yn agos at ei chyfran deg o adnoddau a chyllid gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Ond o ran sut rydym yn gwario ein hadnoddau, un o'r gwersi y credaf y byddwn yn eu dysgu dros yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth edrych yn ôl ar y pandemig, yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu arwain ymateb cyfannol gan y sector cyhoeddus cyfan. A chredaf mai un o'r gwersi rwy'n sicr wedi'u gweld ar draws—nid yn unig yn fy etholaeth i, ond yma, wrth edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru ledled y wlad gyfan, yw bod yr holl ymateb cyfannol gan y sector cyhoeddus wedi bod yn hynod bwerus. Efallai mai'r system olrhain cysylltiadau yma o'i chymharu â'r smonach drychinebus dros y ffin yn Lloegr yw'r enghraifft orau, er nad yr unig un.
Felly, Weinidog, sut y byddwch yn edrych ar y gwaith o reoli gwahanol drefniadaethau mewn llywodraeth leol, yn y gwasanaeth iechyd, gyda phlismona yn ogystal â gwasanaethau Llywodraeth Cymru? Oherwydd y wers rwyf wedi'i dysgu, nad oeddwn yn disgwyl ei dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf, yw bod Gwent, o bosibl, wedi gweithio'n llawer gwell nag a ragwelwyd gennym.
Diolch yn fawr am godi'r pwynt hwnnw ac am gydnabod gwaith anhygoel sector cyhoeddus Cymru wrth ymateb i'r pandemig. Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r adroddiad a gyhoeddwyd beth amser yn ôl bellach a edrychai ar y trefniadaethau amrywiol, yn enwedig y byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus eraill ac ati, sydd yno i wasanaethu pobl Cymru ac i ddod â phobl ynghyd i weithio mewn ffordd gydweithredol sy'n seiliedig ar bartneriaeth. Nododd yr adroddiad hwnnw nifer o argymhellion rydym yn eu hystyried, ond rydym yn gwbl sicr fod yn rhaid i unrhyw newidiadau i'r trefniadaethau hynny ddod o'r gwaelod i fyny. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn teimlo bod Gwent wedi dod at ei gilydd mewn ffordd arbennig o dda, a chredaf fod rhan o hynny'n ymwneud â'r berthynas dda sy'n cael ei meithrin rhwng y bobl sy'n malio o ddifrif am eu hetholwyr a'u cymunedau a'u hawdurdodau lleol, ac yn malio ynglŷn â gwneud gwaith da ar eu rhan.
Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, mae gan Gyngor Sir Fynwy gyfres o gynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys dogfen sir Fynwy 2040, adroddiad 'cefnogi economïau Cyngor Sir Fynwy yn y dyfodol', yn ogystal â'i rôl hanfodol ym margen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, ar gyfer datblygu etholaeth Mynwy yn economaidd. Ond yr hyn sy'n llesteirio sir Fynwy, a llawer o gynghorau eraill ledled Cymru, yw diffyg sicrwydd ynghylch cyllid. Ac fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol wedi galw dro ar ôl tro am setliadau aml-flwyddyn, sy'n eu galluogi i gynllunio'n fwy strategol ac i ddatblygu eu cynlluniau economaidd yn hirdymor. Nawr ein bod yn gwybod, neu ei bod hi'n debygol y bydd adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 27 Hydref yn cyhoeddi adolygiad aml-flwyddyn, a allwch wneud datganiad yn awr—a gawn ni gynnig yr un proses gyllidebu neu setliad aml-flwyddyn i lywodraeth leol ledled Cymru? Byddai croeso mawr i'r datganiad hwnnw yn awr, yn sgil yr hyn y gallai Llywodraeth y DU ei gyhoeddi ar y seithfed ar hugain, fel rydym newydd glywed gan arweinwyr llywodraeth leol ychydig funudau yn ôl.
Ydym, rydym wedi bod yn galw am setliadau aml-flwyddyn hefyd, ochr yn ochr â llywodraeth leol yng Nghymru, ers blynyddoedd lawer. Credaf mai 2017 oedd y tro diwethaf inni lwyddo i gyhoeddi cyllideb am fwy nag un flwyddyn ariannol. Rydym yn deall y bydd yr un nesaf am dair blynedd, ac yn sicr, y bwriad fyddai trosglwyddo'r sicrwydd a gawn drwy hynny i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, er mwyn caniatáu iddynt gael cyfle i gynllunio ymlaen llaw gyda mwy o hyder.