Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Medi 2021.
Mae'r argyfwng tai, gan gynnwys yr argyfwng ail gartrefi, yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ledled Cymru. Dwi'n croesawu'r ymgynghoriad yma wrth gwrs, ond rhan yn unig o'r ateb fyddai mynd i'r afael â'r materion sydd yn yr ymgynghoriad yma. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. Ond o ran yr ymgynghoriad ei hun, pryd yn union fydd yr argymhellion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad yma'n cael eu gweithredu? A fedrwch chi roi syniad inni o'r amserlen o gwmpas yr ymgynghoriad yma a beth fydd y camau nesaf, achos mae'n rhaid gweithredu ar frys? Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny hefyd.