1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Medi 2021.
8. A wnaiff y Gweinidog egluro pwrpas yr ymgynghoriad cyfredol ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar? OQ56822
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gweithredu un o'r camau a nodwyd yn ein dull triphlyg o fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi ar gymunedau yng Nghymru. Mae'n galw am safbwyntiau ar newidiadau posibl i drethi lleol, gan gynnwys pwerau awdurdodau lleol i gymhwyso premiymau'r dreth gyngor a'r meini prawf ar gyfer diffinio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig.
Mae'r argyfwng tai, gan gynnwys yr argyfwng ail gartrefi, yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ledled Cymru. Dwi'n croesawu'r ymgynghoriad yma wrth gwrs, ond rhan yn unig o'r ateb fyddai mynd i'r afael â'r materion sydd yn yr ymgynghoriad yma. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. Ond o ran yr ymgynghoriad ei hun, pryd yn union fydd yr argymhellion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad yma'n cael eu gweithredu? A fedrwch chi roi syniad inni o'r amserlen o gwmpas yr ymgynghoriad yma a beth fydd y camau nesaf, achos mae'n rhaid gweithredu ar frys? Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny hefyd.
Ydw, rwy’n cytuno mai rhan o’r darlun yn unig yw hwn a bod angen gweithredu ar frys, gan y gwyddom fod cymunedau yng Nghymru o ddifrif yn teimlo pwysau yn hyn o beth. Dyma pam ein bod wedi rhoi camau cynnar ar waith, fel yr 1 y cant ychwanegol ar gyfradd uwch y dreth trafodiadau tir, er enghraifft, ond mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd hefyd mewn perthynas â datblygu strategaeth y Gymraeg ar gyfer cymunedau, ac mae rhan o hynny, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sicrhau y gall pobl aros yn eu cymunedau Cymraeg eu hiaith a phrynu cartref yno.
Felly, mae sawl peth yn digwydd ar unwaith. Nid wyf yn bwriadu treulio llawer o amser yn ystyried y safbwyntiau a gyflwynir. Gwn y byddwn yn cael sbectrwm eang iawn o safbwyntiau, o bobl sy'n hollol wrthwynebus i unrhyw newidiadau, i bobl y byddai'n well ganddynt pe bai gennym ddull a oedd yn ei gwneud yn haws fyth i brynu ail gartrefi, i bobl a chanddynt farn ar ben arall y sbectrwm. Yn amlwg, mae croeso i bob barn, a byddwn yn eu hystyried, ond nid wyf am dreulio mwy o amser nag sydd angen. Yn amlwg, deallaf y brys mewn perthynas â'r mater penodol hwn.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ar ôl un o’r tymhorau prysuraf erioed yn Llandudno a gogledd Cymru, yn dilyn y pandemig ofnadwy, dylem yn hytrach fod yn diolch i’n gweithredwyr eiddo gwyliau ar osod am y budd economaidd aruthrol y maent yn ei roi i’n cymunedau a’n cynnig twristiaeth. Cydnabuwyd y budd hwn yn adroddiad Dr Simon Brooks, hyd yn oed, ac mae'n rhaid i'r weinyddiaeth Lafur Cymru hon ei dderbyn. Gwn nad wyf ar fy mhen fy hun yn gwrthod y llif cyson o sylwadau negyddol a dilornus sydd wedi'u hanelu at ein perchnogion ail gartrefi a pherchnogion llety hunanddarpar. Bellach, mae llawer o bobl yn gweld hyn yn debyg i safbwynt cenedlaetholgar Plaid Cymru, sy'n wrth-dwristaidd, yn wrth-fusnes ac yn wrth-uchelgais, ac a dweud y gwir, Plaid Cymru, mae angen i chi ddechrau newid eich tiwn.
Ail gartrefi ac eiddo gwyliau ar osod yw oddeutu 3 y cant o'r stoc dai yng Nghonwy, ac amcangyfrifwyd y gellid codi premiwm y dreth gyngor ar oddeutu 1,182 eiddo yn 2020-21. Yn gwbl gywir, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gyndyn o gynyddu'r premiymau hyn—cam da i'n heconomi. Bwriad yr offeryn hwn oedd dod ag eiddo gwag yn hirdymor yn ôl i ddefnydd, ond ni chyflawnwyd hyn, oherwydd fel y gwyddoch, Weinidog, mae targedau'r Llywodraeth wedi'u methu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Fodd bynnag, mae agwedd anflaengar bresennol Llywodraeth Cymru tuag at ein landlordiaid preifat yn eu gwthio tuag at farchnad fwy proffidiol llety gwyliau ar osod. Y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn heddiw yw: pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ail-gymell ein landlordiaid preifat, er mwyn eu galluogi i aros yn y sector preifat yn hytrach na symud i faes llety gwyliau ar osod? Diolch, Lywydd.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddechrau drwy gydnabod pwysigrwydd aruthrol y sector twristiaeth i sawl rhan o Gymru. Mae'n gwbl hanfodol i lawer o gymunedau ac rydym am sicrhau ein bod yn rhoi croeso cynnes i bawb pan ddônt i ymweld â ni yng Nghymru, fel eu bod yn dymuno dychwelyd, a gwneud hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn. Credaf hefyd ei bod yn bwysig inni geisio sicrhau bod gennym gymunedau cytbwys, cymunedau lle gall pobl, fel y dywedais yn y sesiwn hon eisoes, aros yn eu cymunedau a dod o hyd i gartref fforddiadwy, ond hefyd mewn cymunedau lle mae twristiaeth yn bwysig iawn, lle gallwn sicrhau bod gennym ddigon i'w gynnig i'r twristiaid hynny hefyd. Felly, mae'n gydbwysedd anodd, ond credaf y bydd peth o'r gwaith rydym yn ei wneud ar y cynlluniau peilot, gyda'r nod o weld cymunedau'n gweithio gyda ni ar hynny, yn bwysig, gan fod pob cymuned yn unigryw mewn cymaint o ffyrdd.
Mae gan landlordiaid preifat ran bwysig i'w chwarae mewn perthynas â'n stoc dai yma yng Nghymru. Mae'n ddewis cadarnhaol i bobl sy'n dymuno rhentu ac rydym wedi gwneud gwaith da dros y blynyddoedd diwethaf gyda Rhentu Doeth Cymru a'r gwaith a wnaethom ar hynny i geisio sicrhau bod y cynnig gan landlordiaid preifat yn gynnig o safon i unigolion yma yng Nghymru, a sicrhau bod y sector hwnnw'n darparu rhan bwysig a defnyddiol iawn o'r opsiynau tai i bobl os mai rhentu yw'r dewis iawn iddynt. Mae'n ddewis cadarnhaol i lawer o bobl, felly mae angen inni sicrhau ei fod yn brofiad da iddynt.
Diolch i'r Gweinidog.