Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:20, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld cyfraith Lucy, y gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, yn dod i rym yn gynharach y mis hwn. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ymgyrchwyr a gefnogodd y gyfraith hon, a diolch i chi'n gyhoeddus am gyflawni'r ymyrraeth bwysig hon. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr ymgysylltu a gafwyd gyda busnesau, bridwyr ac ati, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r rheolau newydd ac yn cydymffurfio â hwy?