Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Medi 2021.
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 9 gael eu grwpio.
Mae sawl ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi fy mwriad i gyhoeddi cynllun lles anifeiliaid i Gymru, a fydd yn ymestyn dros dymor y Llywodraeth hon.