Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 15 Medi 2021.
Gall unrhyw un nad yw wedi ei wahardd gan lys brynu anifail. Nid oes unrhyw brofion ar gyfer perchnogaeth, dim cyfarwyddiadau statudol ar sut i edrych ar ôl anifeiliaid. A yw'n syndod fod cymaint o anifeiliaid yn cael eu trin yn wael, nid bob amser am fod pobl eisiau eu trin yn wael, ond oherwydd anwybodaeth? A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno cyfarwyddiadau a phrofion ar-lein i'r rheini sy'n dymuno prynu gwahanol anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, y byddai'n rhaid eu pasio cyn prynu, fel bod pobl yn gwybod beth y maent yn ei wneud wrth brynu anifail? Ac efallai, weithiau, y byddant yn penderfynu peidio â'i brynu oherwydd faint o waith y mae'n ei olygu.