Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:24, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf ei fod fel unrhyw beth arall mewn bywyd: os ydych yn ymwneud yn agos â mater, yn amlwg, mae eich dealltwriaeth yn well. Yn sicr, bu cryn dipyn o ddiddordeb yn y cyfryngau, fel y dywedwch, yn achos Geronimo. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i gael gwared ar y clefyd ofnadwy hwn.

Byddaf yn adnewyddu'r rhaglen dileu TB. Fel y gwyddoch, rwy’n adrodd yn flynyddol i’r Siambr hon bob blwyddyn ar ein rhaglen dileu TB, ac rwy'n credu y byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr hon ym mis Tachwedd. Dros yr haf, manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â Glyn Hewinson, academydd ym Mhrifysgol Aberystwyth y gwn fod Llyr Huws Gruffydd yn gwybod amdano, i glywed nid yn unig am yr ymchwil ond am frechu gwartheg, er enghraifft. Pan gyfarfûm â Glyn am y tro cyntaf, roedd bob amser yn dweud wrthyf fod brechu gwartheg yn erbyn TB 10 mlynedd i ffwrdd. Credwn bellach ei fod oddeutu pedair blynedd i ffwrdd, felly gallwch weld y cynnydd rydym yn ei wneud.