Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:22, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r cyfyngiadau symud yn sgil COVID wedi arwain at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes sy'n cael eu dwyn, ac wedi golygu y bydd herwgydio anifeiliaid anwes yn dod yn drosedd yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae dwyn anifail anwes yn cael ei drin fel colli eiddo'r perchennog o dan Ddeddf Dwyn 1968, ond nid yw hyn yn ddigon i gydnabod y trallod emosiynol enfawr y gall hyn ei achosi i'r perchennog, a'r anifail anwes hefyd. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd, Weinidog, i gadw'r gyfraith ar ddwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru yn unol â'r gyfraith yn Lloegr i sicrhau bod perchnogion anifeiliaid anwes yma'n cael eu diogelu i'r un graddau â phobl dros y ffin? Diolch.