Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 15 Medi 2021.
Mae dwyn anifeiliaid anwes yn amlwg yn weithred droseddol, ac mae'n fater a gedwir yn ôl, fel y dywedwch, o dan Ddeddf Dwyn 1968. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r tasglu dwyn anifeiliaid anwes a gyflwynwyd gan DEFRA, felly mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA i sicrhau y gallwn gydweithredu. Yn sicr, credaf ein bod wedi gweld mwy o achosion o ddwyn anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig. Mae aelod o fy nheulu fy hun wedi cynyddu mesurau diogelwch yn eu cartref oherwydd eu pryderon ynghylch dwyn anifeiliaid anwes, felly credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio ar y cyd â DEFRA.