Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 15 Medi 2021.
Bydd y rhan fwyaf o gontractau Glastir Uwch, Glastir Organig a Thir Comin Glastir yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae llawer o gontractau eisoes wedi'u hadnewyddu a'u hymestyn sawl gwaith wrth inni fynd yn ein blaenau. Ers 2017, pan ddaeth cyfnod contract pum mlynedd Glastir Uwch i ben, y bwriad oedd ymestyn contractau wrth iddynt ddod i ben, ond wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod cyllid rhaglen datblygu gwledig yr UE a’r ansicrwydd sy'n ein hwynebu ynghylch argaeledd cyllidebol yn y dyfodol yn golygu nad yw hynny'n opsiwn mwyach. Gwn y bydd mwy o ffocws ar ddyfodol y contractau hyn, ond fel y dywedaf, hyd nes y caf rywfaint o sicrwydd ynglŷn â chyllid, ni allaf wneud cyhoeddiad.