Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:36, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Bydd hynny'n siom i ffermwyr ledled Cymru.

Yn olaf, Weinidog, rwy'n disgwyl y byddai llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch pryderon ynglŷn â bylchau yn neddfwriaeth adnabod ceffylau Cymru. Er bod fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r gofyniad gorfodol i ficrosglodynnu ceffylau yng Nghymru, ceir pryderon o hyd ynghylch cywirdeb y pasbortau papur a ddefnyddir ar hyn o bryd i olrhain ceffylau, yn ogystal â’r nifer isel o geffylau sydd wedi'u microsglodynnu a gofnodwyd yn y gronfa ddata ganolog i geffylau. Rwy'n ymwybodol y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar newidiadau i drefniadau adnabod ac olrhain ceffylau yn ddiweddarach eleni, felly pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau sylweddol i'r system, gan gynnwys digideiddio pasbortau ceffylau, fel y dechreuodd Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain ei wneud ym mis Gorffennaf, a darparu gwasanaeth llyfn i ddiogelu lles ceffylau?