Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 15 Medi 2021.
Unwaith eto, nid wyf wedi clywed am y cynnydd y cyfeiriwch ato mewn ymchwiliadau i docio clustiau cŵn, ond os oes gennych rai enghreifftiau penodol, byddwn yn falch iawn pe baech yn ysgrifennu ataf fel y gallaf fynd i'r afael â'r mater gyda'r prif swyddog milfeddygol a gofyn iddi ei archwilio. Credaf ei bod yn deg dweud bod llawer o'r ddeddfwriaeth, nad yw wedi'i datganoli—mae rhywfaint ohoni wedi; a rhywfaint heb—ond yn sicr, nid yw rhywfaint o'r ddeddfwriaeth a gedwir ôl yn addas at y diben, yn enwedig mewn perthynas â'r troseddau cefn gwlad rydym yn eu gweld. Rwyf wedi cael trafodaethau—mae gennym bellach gomisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, ond cyn hynny—gyda rhai o'r timau gwledig mewn perthynas â hyn. Felly, rwyf wedi bod yn sicrhau bod swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas at y diben. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf yn benodol ar y pwynt hwn, os gwelwch yn dda.