Bridio Cŵn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 2:51, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf filgi achub. Bob blwyddyn, mae milgwn ifanc ac iach yn cael eu lladd am nad oes ganddynt botensial i ennill, wedi eu hanafu wrth rasio, neu am nad ydynt bellach yn gystadleuol. Mae milgwn rasio'n aml yn cael anafiadau ofnadwy ar y trac, fel ataliad y galon a pharlys llinyn asgwrn y cefn, ac yn torri'u coesau a'u gyddfau. Mae fy nghi fy hun wedi anafu ei wddf yn ddifrifol, er enghraifft, felly gallaf siarad o brofiad. Maent hefyd yn dioddef oddi ar y trac, gan dreulio'r rhan fwyaf o'u hamser un ar ben y llall mewn warws o gytiau. Weinidog, o ystyried lefel y creulondeb i filgwn, rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth ystyried gwaharddiad ar rasio milgwn yma yng Nghymru. A allwch wneud datganiad ar eich safbwynt ar wahardd rasio milgwn yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.