Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch yn fawr, ac mae'n wych fod gennych gi achub. Yn sicr, pan oeddwn yn y Dogs Trust yr wythnos diwethaf—na, yr wythnos cynt, mae’n ddrwg gennyf—yn hyrwyddo ein gwaharddiad ar werthu gan drydydd parti, roedd sawl milgi yn y ganolfan achub cŵn. Mae'n debyg na ddylwn ddweud hynny wrthych, gan y byddwch yn mynd yno. Cawsom drafodaeth ynghylch y nifer, gan ei bod yn amlwg iawn faint oedd yno. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â milgwn.FootnoteLink