Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Medi 2021.
Rwy'n ymwybodol o gryn dipyn o seilwaith yng ngogledd Cymru sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd, gan gynnwys y ddwy enghraifft a grybwyllwyd heddiw, ac nid ydynt wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer cyllid y soniodd y Gweinidog amdanynt yn gynharach. Rwy'n ymwybodol, fel cyn-Aelod y cabinet dros drafnidiaeth fod yna danwariant bob blwyddyn sydd fel arfer yn mynd i'r asiantaeth cefnffyrdd. Y llynedd, rwy'n credu bod tanwariant o £16 miliwn a £20 miliwn cyn hynny—mae'n danwariant go sylweddol sy'n mynd yn ôl, weithiau, i awdurdodau lleol, ond yn bennaf i'r asiantaeth cefnffyrdd, sy'n cael cryn dipyn o gyllid y gwn amdano bob blwyddyn. A chyda'r oedi ar adeiladu ffyrdd newydd hefyd, a ellid ailddyrannu'r arian hwnnw i helpu gyda seilwaith sydd wedi'i ddifrodi gan lifogydd, rhywbeth a fyddai o gymorth mawr i awdurdodau lleol sy'n brin iawn o arian yng ngogledd Cymru? Dyna'r cwestiwn i chi, diolch.