Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch. Fel y dywedais, y Gweinidog Newid Hinsawdd, neu'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am y gyllideb honno, ac fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae'n cynnal adolygiad o ffyrdd. Yn bersonol, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw danwariant, ac yn amlwg, nid oes llawer o'r flwyddyn ariannol hon wedi bod eto. Ond yn amlwg, gallai fod yn syniad da pe baech yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r pwynt penodol hwnnw am ei gyllideb.