Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Medi 2021.
Mewn perthynas â'ch cwestiwn cyntaf ynglŷn â thiwna, fel y dywedwch, ni ddechreuodd y tymor yn iawn tan y mis diwethaf. Felly, ni chredaf fy mod mewn sefyllfa i roi unrhyw ddata ar hyn o bryd, ond yn amlwg, wrth i'r tymor fynd rhagddo, rwy'n siŵr y bydd modd imi wneud hynny.
Roedd eich prif gwestiwn yn cyfeirio at bolisi pysgota dros y degawd diwethaf, ac nid wyf yn cydnabod y sefyllfa rydych yn ei disgrifio. Felly, na, ni chredaf y byddai angen adolygiad annibynnol arnom. Yn amlwg, a ninnau wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd bellach, mae hynny'n rhoi cyfle inni gael polisi pysgota integredig mewn modd nad ydym wedi'i gael o'r blaen yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pysgotwyr Cymru yn benodol yn ogystal â'n cymunedau arfordirol, oherwydd yn amlwg, mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw.