Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Medi 2021.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynny, achos yn y wasg mi wnes i hefyd ddarllen bod yna fwriad gan y Llywodraeth i werthu'r parc, neu rannau o'r parc. Mae'n dda cael eich cadarnhad chi heddiw mae sôn am ddau blot ydym ni, ac nid y cyfan o'r parc, felly. Ond, mae hi'n sgandal, onid ydy, nad oes yna'r un swydd wedi cael ei chreu yn y parc yma ar ôl bron 20 mlynedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ofyn i chi, fel Gweinidog y gogledd, beth ydy'r cynllun hir dymor ar gyfer y parc yma? Ac ydy'r gwerthu'r plotiau yma yn newyddion da, neu a ydy o'n arwydd bod y Llywodraeth wedi rhoi'r ffidil yn y to yn llwyr o ran denu gwaith i'r safle pwysig yma?