Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 15 Medi 2021.
Na, dim o gwbl. Mae'r safle wedi'i nodi fel cyfle datblygu posibl yn rhan o fargen twf gogledd Cymru, er enghraifft. Gwn fod swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru i barhau i archwilio cyfleoedd buddsoddi a swyddi ar y safle. Gwelwyd llawer mwy o ddiddordeb yn y farchnad yn ddiweddar, a gwn fod yna nifer o ymholiadau, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Chyngor Gwynedd i weld beth y gallwn barhau i'w wneud i ddenu busnesau i'r safle.