Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi mwynhau sioe sir Benfro ychydig wythnosau'n ôl. Nawr, fel y clywsom eisoes ar lawr y Siambr hon heddiw, mae TB mewn gwartheg yn parhau i fod yn fygythiad sylweddol i ffermwyr yng Nghymru, gan gynnwys ffermwyr yn sir Benfro, ac er gwaethaf eu hymdrechion i'w ddileu drwy fesurau'n seiliedig ar wartheg, mae'n parhau i roi straen emosiynol ac ariannol enfawr ar deuluoedd ffermio. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r straen emosiynol ac ariannol ar ffermwyr a achosir gan TB buchol? Ac a wnewch chi ymrwymo o'r diwedd i edrych ar y mater hwn yn gyfannol, gan gynnwys ymdrin â'r clefyd mewn bywyd gwyllt, pan fyddwch yn cyflwyno eich diweddariad o'r strategaeth TB mewn gwartheg yn ddiweddarach eleni, fel y gallwn atal TB buchol rhag gwneud niwed na ellir mo'i wella i amaethyddiaeth ac i'n cymunedau gwledig?