Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 15 Medi 2021.
Rydym bob amser wedi edrych ar y clefyd hwn yn gyfannol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr. Mae'n glefyd ofnadwy ac nid wyf yn bychanu'r effaith emosiynol y mae'n ei chael. Ac fel y dywedwch, mae'n cael effaith ariannol, wrth gwrs, ac rwyf wedi siarad â nifer o ffermwyr ar ymweliadau dros yr haf ynghylch y clefyd ofnadwy hwn. Fel rydych newydd nodi, byddaf yn gwneud datganiad pellach ar gam nesaf diweddaru'r rhaglen ddileu ym mis Tachwedd. Mae'n dda gweld bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion newydd yn ystod y cyfnod diweddaraf o 12 mis, a byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu i weithio gyda'r sector, i geisio dileu'r clefyd ofnadwy hwn cyn gynted â phosibl. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud am y trafodaethau a gefais gyda Glyn Hewinson, ac wrth gwrs, un elfen yn unig yw'r brechiad, ac yn anffodus, mae'n dal i fod tua phedair blynedd i ffwrdd. Ond fe fyddwch yn gwybod am y cynlluniau gweithredu pwrpasol a fu gennym gyda'r buchesi ag achosion hirdymor o TB, ac rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd yno hefyd.