Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Medi 2021.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Nid oes llawer o ddyddiau pan fyddaf yn cerdded i mewn heb fod yn meddwl am y pwnc hwn, oherwydd rwy'n gweld fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent yma, sydd wedi siarad yn huawdl am ei brofiad personol—profiad trawmatig, ddywedwn i—ac mae pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i bobl am ddiffibrilwyr yn golygu ei fod yma gyda ni. Ar rai dyddiau pan fydd yn cyfrannu, efallai y byddai'n well gennyf pe bai yn yr ystafell de yn hytrach na'r fan hon—[Chwerthin.]—ond mae'n wych ei weld o gwmpas ac yn cerdded ac yn mwynhau bywyd.
Ac mae'n dda gweld gwên ar wynebau pobl pan fydd hynny'n cael ei ddweud, oherwydd y cyfrannwr arall i'r ddadl hon yn y Cynulliad blaenorol oedd Suzy Davies, a arweiniodd sawl dadl yma ar yr angen, yn y cwricwlwm yn benodol, i gael addysg ar ddiffibrilwyr a'r defnydd o ddiffibrilwyr yn y gymuned, oherwydd nid oes diben eu cael os na allwch eu defnyddio, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â'r pwynt hwnnw hefyd. Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth flaenorol wedi newid ei safbwynt ar ôl llawer o lobïo gan Suzy Davies i gael y pwynt pwysig hwn i mewn i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, fel y byddai lle o fewn y cwricwlwm i'r addysg honno gael ei darparu mewn colegau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, oherwydd, unwaith eto, clywn y rhifau, fel y soniodd Gareth yn ei sylwadau agoriadol, a bydd 8,000 o bobl yn cael ataliad y galon yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae ataliad y galon yn lladd mwy o bobl na chanser yr ysgyfaint, canser y fron ac AIDS gyda'i gilydd—gyda'i gilydd. Mae hynny'n werth ei ystyried. Gyda chanser yr ysgyfaint, canser y fron ac AIDS wedi'u cyfuno, mae mwy o bobl yn marw o ataliad y galon yma yng Nghymru. Ond mae yna ateb: gallwn sicrhau bod y dyfeisiau hyn ar gael yn haws, a gallwn sicrhau bod y dyfeisiau hyn ym mhob cymuned ar hyd a lled Cymru. Ond pan fyddwn yn sicrhau eu bod ar gael, yr hyn sy'n bwysig yw eu bod ar gael i'w defnyddio 24/7, nid yn unig mewn mannau gwaith cyfyngedig, megis mewn colegau, er enghraifft, lle mae llawer o golegau'n nodi bod ganddynt ddiffibrilwyr, ac mae hynny i'w groesawu, ond nid yw'n llawer o werth iddo fod yn y coleg os yw'r drws wedi'i gloi ac na allwch ei gyrraedd pan fydd ei angen. A dyna pam y mae angen mwy o weithgaredd cymunedol arnom i geisio cael mwy o neuaddau cymunedol, a lleoliadau chwaraeon yn arbennig, i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio'r cyfleusterau hyn. A dyna pam rwyf wedi bod mor falch yn fy rôl—ac nid wyf yn ceisio cael fy ailethol ym mis Mai y flwyddyn nesaf, felly nid cais i gael fy ethol y flwyddyn nesaf yw hwn; rwy'n datgan buddiant—fy mod wedi cael y pleser o chwarae rhan yn codi arian ar gyfer o leiaf bum diffibriliwr yn ward y Rhws i sicrhau, o'r clwb pêl-droed i safle preswyl Trwyn y Rhws i bentref Llantrithyd, fod diffibrilwyr bellach ar gael i'r cymunedau hynny. A dyna lle mae'n wirioneddol bwysig.
Rwy'n gresynu bod y Llywodraeth wedi dewis dileu'r un pwynt yn y cynnig hwn heddiw a alwai am weithredu ar ran y Llywodraeth i ymgysylltu â grwpiau cymunedol i sicrhau bod arian ar gael ar sail gyson a chynaliadwy i sicrhau y gallwn godi'r niferoedd y soniodd Gareth amdanynt. Ar hyn o bryd, gwyddom fod tua 4,000 o ddiffibrilwyr ar gael ledled Cymru. Os ydym am gael darpariaeth ystyrlon ar sail genedlaethol, mae'n debyg y bydd angen inni ddyblu'r nifer honno, ac mae hynny'n gofyn llawer. Ond credaf fod y Llywodraeth wedi cymryd cam yn ôl wrth geisio dileu'r pwynt hwn yn y cynnig y prynhawn yma, oherwydd mae'n gynnig cydsyniol ac yn y pen draw mae'n ceisio cyrraedd y ddarpariaeth ddigonol honno'n genedlaethol drwy alw ar y Llywodraeth i sicrhau bod yr adnoddau cenedlaethol hynny ar gael.
Rwy'n derbyn bod gwelliant y Llywodraeth yn sôn am arian sydd ar gael gan y Llywodraeth i wahanol grwpiau cymunedol, ond yn amlwg, mae llawer mwy o waith i'w wneud. Pan edrychwch ar yr ymatebion addysg y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'u cael yn ôl, yn enwedig gan awdurdodau addysg lleol, dim ond sir Ddinbych a allai nodi'n union beth oedd gan safleoedd ysgol o ran diffibrilwyr. Cadarnhaodd yr 11 awdurdod lleol arall allan o 12 a ymatebodd i'r cais rhyddid gwybodaeth nad oes cronfa ddata ganolog o fewn yr adran addysg i ddangos ble mewn ysgolion y gallai diffibrilwyr fod ai peidio. Unwaith eto, mae hynny'n ddiffyg yn ein dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ei wneud.
Mae llawer o waith i'w wneud, ond rydym yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Gobeithio y gallwn ganfod consensws gyda'r ddadl hon heddiw, oherwydd fel y gwelsom gyda'r pandemig, yn anffodus roedd yn un o bob 10 cyn y pandemig yn goroesi ataliad y galon yma yng Nghymru, ac mae bellach yn un o bob 20, felly mae'r niferoedd wedi mynd tuag yn ôl. Nid yw hynny'n fai ar neb, oherwydd y pandemig—rwy'n derbyn hynny—ond mae'n pwysleisio'r mynydd sy'n rhaid inni ei ddringo a'r gwaith sy'n rhaid inni ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru gyfan i sicrhau ein bod yn creu mwy o addysg o amgylch y defnydd o ddiffibrilwyr, a mynediad at ddiffibrilwyr, yn bwysig iawn. Rwyf am ailadrodd y llinell honno eto: mae angen iddynt fod ar gael yn rhwydd 24/7. Nid oes unrhyw bwynt ticio blwch yn dweud bod diffibriliwr mewn lleoliad dan glo sydd ddim ar gael am 12 awr o'r dydd, na thros y penwythnos. Oherwydd fel y digwyddodd i Alun, roedd yn digwydd bod mewn parc; yn y pen draw, roedd yn lwcus fod rhywun yn mynd heibio ac yn gallu gwneud yr hyn roedd angen ei wneud i ddod ag ef yn ôl yn fyw. Ond pwy a ŵyr ble y gallai daro un o'r 8,000 o bobl yng Nghymru a fyddai'n cael digwyddiad cardiaidd o'r fath.
Galwaf ar y Llywodraeth i wneud mwy, fel y mae'r wrthblaid bob amser yn ei wneud mewn dadleuon ar brynhawn dydd Mercher. Ond rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth am y gwaith a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf gyda Suzy Davies i sicrhau bod lle yn y cwricwlwm addysg i ganiatáu mwy o ddysgu addysgol fel bod pobl yn gwybod beth i'w wneud os byddant yn wynebu hynny. Mae'r Llywydd yn edrych arnaf yn awr, oherwydd mae'r llinell goch wedi codi, felly ar y nodyn hwnnw, rwyf am orffen. Diolch.