5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:39, 15 Medi 2021

Mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig yma heddiw. Dydy hwn ddim yn fater pleidiol wleidyddol, yn amlwg. Dwi wedi gweithio ar ddatganiadau ar y cyd efo Aelodau Llafur a Cheidwadol yn y gorffennol ar yr union fater yma, ac mae'r hyn sydd o'n blaenau ni yn rhywbeth sy'n synhwyrol ac yn gofyn am gamau digon sylfaenol ac ymarferol er mwyn achub bywydau ar draws Cymru. Mae o'n rhywbeth dwi wedi bod yn rhan ohono fo fy hun. Mae o'n berthnasol i ni i gyd.

Tra bo'r rhan fwyaf o achosion o cardiac arrest yn digwydd o fewn y cartref, mae yna gyfran sylweddol ohonyn nhw yn digwydd y tu allan i'r cartref. Ac rydyn ni'n gwybod mor allweddol ydy argaeledd y peiriannau defibrillator er mwyn rhoi cyfle i rywun allu goroesi digwyddiad fel hyn. Mae un o'n plith ni wedi cael y profiad hwnnw yn lled ddiweddar, ond mae o'n digwydd yn ddyddiol. Mae yna lefydd yn benodol lle rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n wirioneddol bwysig cael peiriannau oherwydd bod astudiaethau rhyngwladol yn dangos inni fod rhywun yn fwy tebyg o gael cardiac arrest mewn hybs trafnidiaeth, mewn canolfannau siopa, mewn canolfannau chwaraeon, mewn llefydd fel cyrsiau golff ac ati. Felly, mi ddylai hi fod yn nod i bob un ohonom ni sicrhau bod yna gefnogaeth wirioneddol, ymarferol ac ariannol gan Lywodraeth i ganiatáu i hynny ddigwydd, ac mae yna wastad le i'r Llywodraeth wneud mwy.

A dyna pam dydw i ddim eisiau cefnogi, a byddwn ni ddim yn cefnogi'r gwelliant gan y Llywodraeth heddiw. Wrth gwrs bod y Llywodraeth wedi buddsoddi yn y maes yma yn barod, a beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy gwelliant sydd yn nodi hynny. Ond dwi'n meddwl ein bod ni angen gwneud mwy ar ddiwrnod fel hyn na nodi'r camau sydd wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth. Beth sydd eisiau ydy i'r Llywodraeth dderbyn, oes, mae yna fwy y gallwn ni ei wneud, wastad.

Mae yna gymaint mwy, wrth gwrs, sydd angen edrych arno fo na dim ond arian. Mae'r cwestiwn o gofrestr yn un pwysig iawn. Mae yna un gofrestr, The Circuit—y national defibrillator network—lle mae'n bosib nodi lle mae'r holl beiriannau ar draws y Deyrnas Unedig, a dwi'n gwybod bod Sefydliad y Galon yn galw ar Lywodraeth Prydain i annog pobl sydd yn edrych ar ôl eu peiriannau nhw i'w cofrestru nhw. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae codi ymwybyddiaeth wastad yn bwysig. Faint ohonom ni yn fan hyn sydd wedi cael ein dysgu gan y British Heart Foundation ac eraill sut i ddefnyddio defibrillator? Dwi, a'n swyddfa i, wedi agor y drysau i gynnal dosbarthiadau yn y gorffennol, er mwyn i fwy a mwy o bobl gael gwybodaeth ymarferol ar sut i'w defnyddio nhw. Felly, mae angen gwneud llawer mwy eto i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Ond, fel cam cychwynnol heddiw yma, gadewch inni gyd gefnogi'r cynnig yma, a'i gwneud hi'n glir ein bod ni, fel Senedd, yn unedig ar y cwestiwn o bwysigrwydd y peiriannau bach yma sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru.