Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi'n cytuno bod Llywodraeth y DU wedi nodi'n briodol nad yw'r swm o arian y mae pobl yn ei gael ar gredyd cynhwysol yn ddigonol, a dyna pam y gwnaethant ei gynyddu £20 yr wythnos, fel y gallai'r bobl hynny oroesi? Os cytunwch â hynny, a ydych chi hefyd yn cytuno bod ei ddileu yn awr pan fo pobl fwyaf o'i angen yn gam gwirioneddol anghywir ac yn gam gwael?