Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 15 Medi 2021.
Yr hyn sy'n glir, ac sydd wedi'i fynegi mor rymus yn y ddadl hon, yw bod y bobl niferus a oedd angen yr £20 ar ddechrau'r pandemig yn dal i fod ei angen yn awr. Nid yw'r amgylchiadau wedi newid. Mae niwed wedi gwreiddio'n ddyfnach. Mae'r niferoedd sy'n hawlio credyd cynhwysol, fel y gwyddom i gyd fel Aelodau o'r Senedd, wedi dyblu o 3 miliwn i 6 miliwn ers dechrau'r pandemig. Fel y mae cynifer o bobl wedi dweud heddiw, y rhai y mae'r toriad hwn yn effeithio arnynt yw'r rhai sydd ein hangen ni fwyaf, a rhai sydd hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddiogelu ein gwlad rhag COVID-19—llawer o weithwyr allweddol.
Felly, rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU, ynghyd â Gweinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i ailystyried y toriad arfaethedig hwn. Gallant ailfeddwl a newid o hyd i wneud y cynnydd o £20 yr wythnos yn barhaol—dyna'r rydym wedi galw amdano—ac i gynnig y taliad i bobl sy'n hawlio budd-dal etifeddol. A gaf fi ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dan gadeiryddiaeth Jenny Rathbone—mae pob aelod yn cefnogi'r alwad honno, a'r holl bwyllgorau ar draws Llywodraeth y DU, gan gynnwys pwyllgor dethol San Steffan ei hun, a oedd hefyd yn cefnogi'r alwad hon i wneud y cynnydd o £20 yr wythnos yn barhaol?
Yn ein llythyr gan Weinidogion o'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gofynnwyd i Lywodraeth y DU ddangos eu hasesiad i ni o'r effaith y byddai'r toriad hwn yn ei chael ar lefelau tlodi. Nid ydym wedi cael ymateb. Gwnaethom atgoffa Llywodraeth y DU mai dyma'r toriad unigol mwyaf i daliad nawdd cymdeithasol ers yr ail ryfel byd. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwybod beth fydd yr effaith. Maent wedi gweld yr asesiadau. Maent wedi clywed y rhybuddion gan lu o arbenigwyr, elusennau, a gwrthwynebiad o'u meinciau eu hunain yn wir.
Mae'r Aelodau wedi nodi mor glir y prynhawn yma beth yw effeithiau real iawn y penderfyniad cwbl wirfoddol hwn. Dywed Ymddiriedolaeth Trussell ei bod yn debygol y bydd angen i un o bob pedwar o bobl fynd heb brydau bwyd. Mynegodd Sarah Murphy hyn mor glir, gan rybuddio yn ei disgrifiad graffig am yr effaith y gallai hyn ei chael ar ei phobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dyna 64,000 o bobl yng Nghymru—un o bob pedwar. Mae'n debygol iawn na fydd un o bob pump yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn—61,000 o bobl ledled Cymru.
Bydd yn cynyddu lefelau tlodi ledled Cymru, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sydd wedi cyfarfod â chomisiwn gwrth-dlodi Cymru, a ddywedodd wrthyf yr haf hwn beth fyddai hyn yn ei olygu. Dyma oedd eu prif flaenoriaeth—y dylwn weithio, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i atal y toriad hwn o £20. Roeddent yn cynnwys elusennau tlodi plant, Cyngor ar Bopeth, yr ymgyrch 'Keep the Lifeline', landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—oll yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu'r rhaff achub hon.
Bydd yn effeithio ar bobl anabl a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Dyna 76,000 o bobl sydd wedi'u cofrestru a'u parchu fel rhai nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn galw arnynt i weithio—y grŵp nad yw'n ofynnol iddynt chwilio am waith. Hefyd, ceir yr effaith economaidd negyddol enfawr a fynegwyd mor glir heddiw. Canfu Sefydliad Bevan y byddai tua £286 miliwn yn cael ei dynnu o economi Cymru.
Felly, mae'r Aelodau wedi tynnu sylw at y storm berffaith. Os nad yw'r toriad o £20 yn ddigon didostur ar ei ben ei hun, mae wedi'i gyplysu â diwedd ffyrlo, y cynnydd mewn costau tanwydd, a'r ffaith bod holl gostau byw yn codi—ac wrth gwrs, y cyhoeddiad diweddar, sy'n torri addewid maniffesto, i gynyddu yswiriant gwladol, cam y dywedodd eu CThEM ei hun y gallai arwain at chwalu teuluoedd sy'n byw mewn tlodi.
Ddirprwy Lywydd, mae 97,000 o'r bobl yng Nghymru sy'n derbyn credyd cynhwysol yn gweithio, fel y dywedodd Carolyn Thomas, mewn gwaith ar gyflogau isel, ac mae cynyddu yswiriant gwladol yn taro'r rhai sydd ond yn llwyddo i gadw eu pen uwchben y dŵr. Felly, mae'r rhybuddion a'r dystiolaeth yn glir, a diolch i Jane Dodds am ddweud mor glir fod angen y rhwyd ddiogelwch hon arnom. Rhaid inni sicrhau y gall y Llywodraeth gefnogi ac ymyrryd ar ran y rhai a fydd yn dioddef.
Mae'n realiti amlwg, hyd yn oed os cynhelir y taliad o £20—a dyna'r hyn rydym yn galw amdano y prynhawn yma—ni fydd yn gwneud iawn am yr incwm a gollodd ein cartrefi tlotaf oherwydd y toriadau difrifol i'w taliadau budd-daliadau a gyflwynwyd gan flynyddoedd o doriadau lles. A chyfeiriodd Joyce Watson at Stephen Crabb. Cyfaddefodd heddiw—. O dan ei oruchwyliaeth ef, cyfaddefodd ei fod yn rhan o'r tîm Torïaidd a wnaeth y penderfyniad i rewi budd-daliadau, penderfyniad y mae'n cyfaddef ei fod bellach wedi gwthio mwy o weithwyr i fyw mewn tlodi.
Felly, Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod y dulliau allweddol o fynd i'r afael â thlodi, megis pwerau dros dreth a lles, yn nwylo Llywodraeth y DU, ond gwyddom hefyd fod pobl yng Nghymru yn haeddu system nawdd cymdeithasol wirioneddol gadarn nad yw'n gorfodi pobl i mewn i dlodi pellach neu dlodi parhaus, a dyna pam y byddwn hefyd yn parhau i archwilio'r achos dros ddatganoli lles. Yn amlwg, mae hwn yn ymrwymiad, ac fe'i trafodwyd ddoe, ond roedd hefyd yn ymateb i'r pwyllgor cydraddoldeb, llywodraeth leol a chyfiawnder yn y weinyddiaeth ddiwethaf.
Yn y cyfamser, rhaid inni weithredu yn awr. Mae rhoi diwedd ar yr £20 yr wythnos—os yw'n digwydd, a rhaid inni barhau i ymdrechu i'w atal—yn golygu bod aelwydydd yn nesu at ymyl y dibyn yn ariannol. Mae'n hanfodol ein bod yn helpu, gan ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym ym maes tlodi plant. Soniaf am ddau beth: y cynllun gweithredu pwyslais ar incwm—rydym yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl; cawsom ein hymgyrch genedlaethol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau lles, ac fe helpodd bobl i hawlio £650,000 o incwm budd-dal lles—ond hefyd y gronfa cymorth dewisol—y ffaith ein bod wedi rhoi hwb o £25.4 miliwn iddi yn ystod y pandemig—a darparu cymorth brys i bobl â thanwydd heb fod ar y grid sy'n profi caledi ariannol dros fisoedd oeraf y flwyddyn.
Felly, gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn parhau—y bydd y cymorth yn cael ei ymestyn, o'r gronfa cymorth dewisol, o dan yr amgylchiadau hyn, o fis Hydref hyd at ddiwedd mis Mawrth, gan sicrhau cymorth drwy gydol y gaeaf, a byddwn yn parhau â'r hyblygrwydd rydym wedi'i gynnwys yn y gronfa cymorth dewisol yn ystod y pandemig i roi cymorth ariannol i bobl a fydd yn wynebu mwy fyth o bwysau cyn bo hir o ganlyniad i'r newidiadau a wneir gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Ddirprwy Lywydd, pan fo cymaint o wrthwynebiad i'r toriad o £20—ac efallai fod peth ar ein meinciau yma—gan Lywodraethau datganoledig, gan elusennau, gan dros 50 o ASau Torïaidd, gan gynnwys chwe chyn Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n anfaddeuol ac yn gywilyddus a dweud y gwir fod y Ceidwadwyr yn gwrthod gwrando a sefyll gyda'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Mae cyni yn amlwg ac yn bendant yn ei ôl i'r bobl dlotaf a'r rhai ar y cyflogau isaf, ond diolch i'm cyd-Aelodau eto am y cynnig hwn, am ein galluogi i alw ar y cyd ar Lywodraeth Geidwadol y DU i gamu'n ôl o ymyl y dibyn a gwneud yr hyn sy'n iawn.