Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Mewn ymateb i Sioned Williams yn ei haraith agoriadol, pan fo rhaff achub fel credyd cynhwysol dan ymosodiad o'r fath, pan fo'r rhai sy'n dibynnu arno yn wynebu'r fath anghyfiawnder, rhaid inni uno i wrthwynebu'r penderfyniad cwbl wirfoddol hwn gan Lywodraeth y DU.