– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 15 Medi 2021.
Rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fynediad at ddiffibrilwyr. Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, ymatal neb, yn erbyn 27. Ac felly rydw i'n bwrw fy mhleidlais i yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais: o blaid y cynnig 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Felly, dyma ni'n mynd i'r bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Ac felly mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM7771 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.
2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad at ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.
3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.
4. Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.
5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar gredyd cynhwysol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Ac felly rŷn ni'n edrych nawr i bleidleisio ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 3 sydd nesaf, ac os bydd gwelliant 3 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 3 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Mae gwelliant 4 a gwelliant 5 yn cael eu dad-ddethol.
Felly y cynnig wedi ei ddiwygio yw'r bleidlais nesaf.
Cynnig NDM7772 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig.
2. Yn cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan.
3. Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar incwm isel.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i:
a) barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli gweinyddiaeth lles; a
b) cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo ar bobl yng Nghymru.
Y cynnig wedi ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
A dyna ni, felly, yn cyrraedd diwedd y cyfnod pleidleisio.