Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 15 Medi 2021.
Rhan gyntaf fy nghynnig deddfwriaethol yw i Lywodraeth Cymru, drwy awdurdodau lleol, lunio rhestr genedlaethol gyfoes o gofebion rhyfel Cymru. Gwn fod peth gwaith wedi'i wneud ar hyn gan Cadw drwy raglen Cymru'n Cofio, ond mae mor bwysig fod y data diweddaraf yn cael ei gofnodi a'i fonitro'n rheolaidd i gadarnhau nifer a lleoliad cofebion rhyfel yng Nghymru. Credaf y gellid gwneud hyn orau drwy awdurdodau lleol, a ddylai fod mewn sefyllfa well i nodi a llunio rhestr o'r cofebion rhyfel ym mhob un o'u hardaloedd. Fel y dywedais mewn dadleuon blaenorol, bydd yna adegau lle bydd rhai cofebion ar dir preifat efallai neu, er enghraifft, wedi'u lleoli mewn ysgol neu eglwys, ac fel y cyfryw, perchennog y tir hwnnw fyddai'n gyfrifol am gynnal y cofebion hynny. Fodd bynnag, yr hyn sy'n allweddol i ddiogelu cofebion rhyfel Cymru yw gwybod yn union ble y maent ynghyd â'u cyflwr.
Yn ail, ni fydd yn syndod i'r Dirprwy Weinidog glywed fy mod yn credu y dylai fod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu cofebion rhyfel yn eu hardaloedd, a byddai hynny'n golygu bod dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod cofebion rhyfel yn eu hardaloedd yn cael eu cynnal. Rwyf wedi galw ers tro am ddeddfwriaeth i osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu cofebion rhyfel yn eu hardaloedd, ac er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y syniad, nid oes unrhyw ymrwymiad cryf wedi'i roi i ddeddfwriaeth hyd yma. Wrth gwrs, gwyddom fod Deddf Cofebion Rhyfel (Pwerau Awdurdodau Lleol) 1923 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer cynnal a chadw cofebion, ond nid oes rheidrwydd ar gynghorau i wneud hynny. Byddai gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob cofeb ryfel gyhoeddus yn cael ei diogelu a'i chynnal. Byddai hyn yn golygu sicrhau bod gan bob awdurdod lleol geidwad penodol a fyddai'n gweithio i nodi a chadw cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Yn y swydd hon, byddai'r unigolyn dan sylw'n gweithio'n agos gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am y cofebion a'r bobl sydd â'u henwau arnynt. Yn anffodus, mewn llawer o awdurdodau lleol, nid oes pwynt cyswllt i bobl gael gwybod mwy am y cofebion yn yr ardal, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod gwir angen ei newid.
Yn fy marn i, dim ond drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau lleol y gallwn sicrhau bod cofebion rhyfel yn cael eu gwarchod yn briodol. Mae'n bosibl fod rhai cofebion rhyfel o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gallent hefyd fod yn gynrychioliadol o fath penodol o waith, ac felly yn aml gall cymunedau lleol ddweud ffeithiau wrthych am gofebion nad ydynt bob amser yn wybodaeth gyhoeddus. Felly, mae'n hanfodol sicrhau partneriaeth wirioneddol rhwng awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol fel y gellir archwilio a gwerthfawrogi diwylliant a hanes lleol yn llawn ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, mae rhai grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud gwaith gwych yn diogelu cofebion rhyfel, a dylid eu hannog i barhau i wneud hynny. Fodd bynnag, byddai cefnogaeth rhywun o fewn yr awdurdod lleol yn helpu i gryfhau'r gwaith a wneir eisoes gan lawer o grwpiau cymunedol ac yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol iddynt ar bopeth o olrhain hanes i gynnal a chadw a chadwraeth.
Fel y dywedais mewn dadleuon blaenorol, mae cyfle hefyd i'r rôl hon gynnwys rhywfaint o waith addysgol allgymorth, er enghraifft, drwy ymweld ag ysgolion a siarad â phlant a phobl ifanc. Mae hyn mor bwysig er mwyn addysgu ein plant a'n pobl ifanc am ryfeloedd blaenorol a'r aberth a wnaed gan bobl yn eu cymuned leol. Credaf o ddifrif y byddai creu'r rôl hon yn anfon neges gref fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i anrhydeddu ei harwyr a chynnal ei threftadaeth filwrol. Ar yr un pryd, mae hefyd yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol byth yn anghofio'r aberth a wnaed gan gynifer dros ein rhyddid. Penodi ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel mewn cymunedau fyddai'r ffordd orau o sefydlu pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, datblygu partneriaethau gyda grwpiau cymunedol lleol, a meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ag ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i adrodd straeon ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad.
Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno nad yw cynnal a chadw cofebion rhyfel yn gamp hawdd. Mae pob cofeb yn wahanol ac o'r herwydd, dylid ei hatgyweirio a'i gwarchod mewn ymateb i'w hanghenion unigol. Bydd angen cyngor arbenigol proffesiynol mewn perthynas â llawer o gofebion i asesu cyflwr y gofeb yn gywir a sefydlu'r ffordd gywir o atgyweirio neu warchod y gofeb, ac mae hynny'n costio arian. Gallai ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel gefnogi grwpiau cymunedol yn eu cais i ddenu cyllid grant ar gyfer prosiectau penodol, a chyflwyno'r achos i gyngor y dylai ymyrryd a chefnogi prosiect.
Yn olaf, credaf ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod ble mae ein cofebion rhyfel wedi'u lleoli a phwy sy'n gyfrifol amdanynt. Mae mor bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynghorau'n cael digon o gymorth a chyllid i fynd i'r afael ag achosion o fandaliaeth, ac i fynd i'r afael hefyd â'r rhai sy'n targedu cofebion rhyfel fel metel sgrap. Ni allaf ei ddweud yn gliriach: nid troseddau heb ddioddefwyr yw'r rhain o gwbl. Maent yn droseddau yn erbyn cymdeithas, a dylem droi pob carreg wrth nodi ffyrdd o atal y rhai sy'n ceisio symud cofebion rhyfel.
Bydd y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn ymwybodol o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013 a gyflwynwyd i gryfhau'r rheoliadau ynghylch delwyr metel sgrap, ac i dynhau'r drefn bresennol. Mae'r ddeddfwriaeth honno, a gyflwynwyd yn 2013, yn golygu bod yn rhaid i bob unigolyn a busnes gwblhau proses ymgeisio drylwyr i gael trwydded deliwr metel sgrap, ac mae hefyd yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol wrthod ymgeiswyr anaddas a dirymu trwyddedau. Mae'n gam cadarnhaol ymlaen, ond mae mwy y gellir ei wneud bob amser.
Rwyf hefyd yn ymgyrchu i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu llofnod SmartWater arloesol ar gyfer awdurdodau lleol. Hylif atal troseddau yw SmartWater sy'n ei gwneud hi'n bosibl adnabod cofebion rhyfel unigol, ac mae'n cynnig ffordd sicr o ddod o hyd iddynt pe bai lladrad yn digwydd. Dim ond o dan olau uwchfioled y mae'n weladwy, a gall helpu'r heddlu i olrhain cofebion wedi'u dwyn, ac ar ôl ei osod, mae bron yn amhosibl ei dynnu, gan ei fod yn gwrthsefyll llosgi, sgwrio â thywod ac amlygiad hirdymor i olau uwchfioled. Dyma un ffordd o ddiogelu cofebion rhyfel, ac rwy'n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddatblygu partneriaeth ehangach gyda Sefydliad SmartWater, a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel yn wir, i ddefnyddio'r ataliad pwerus hwn a sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol fodd o'i ddefnyddio.
Nid yw hynny'n golygu nad oes rhywfaint o waith wedi'i wneud i warchod cofebion yng Nghymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhai yn Cadw sydd wedi gweithio gyda chymunedau ac unigolion lleol i greu cynlluniau cynnal a chadw cadwraethol. Fodd bynnag, y realiti yw bod llawer o gofebion rhyfel heb geidwaid, ac mae'r cofebion hynny'n haeddu ein hamser a'n parch hefyd. Ac felly, yn anad dim arall heddiw, rwy'n mawr obeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau y bydd yn adolygu'r ddeddfwriaeth ynghylch gwarchod cofebion rhyfel, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid fel yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a Cadw i dynhau'r ddeddfwriaeth honno a'i gwneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Lywydd, wrth gloi, rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r amser a'r sylw y maent yn eu haeddu i'r cynigion hyn, a byddwn yn hapus i weithio gydag unrhyw Aelod yn y Siambr i warchod cofebion rhyfel Cymru yn well. Teitl y ddadl hon yw 'Byddwn yn eu cofio', ac mae diogelu a gwarchod cofebion rhyfel yn un ffordd o anrhydeddu ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad. Ac mae'n fwy na hynny. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mwy amdanynt, a'r pris uchaf a dalwyd ganddynt am ein rhyddid. Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwarchod ein treftadaeth filwrol yn y Senedd hon, ac ymrwymo i wneud mwy i warchod cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Diolch.