Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Peter Fox a James Evans yn y ddadl hon. Mae'r ddadl heddiw yn arbennig o ingol gan ei bod yn Ddiwrnod Brwydr Prydain ac rydym yn anrhydeddu gwaddol y criwiau awyr dewr a amddiffynnodd Brydain yn erbyn gorthrwm. Nawr, mae'r ymgyrch i ddiogelu cofebion rhyfel ledled Cymru wedi bod yn un rwyf wedi bod yn falch o'i harwain ers sawl blwyddyn bellach, ac er ei bod yn bleser mawr gennyf dynnu sylw at y mater hwn eto, dyma'r trydydd tro imi gyflwyno dadl ar y pwnc, felly rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall ei bod yn rhwystredig iawn gweld mai ychydig o weithredu a gafwyd gan Lywodraethau olynol ar y mater hwn. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod hefyd wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru ac os bydd yn llwyddiannus yn y bleidlais honno, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ddeddfwriaeth.
Rwyf am nodi o'r cychwyn nad yw'r ymgyrch hon yn un wleidyddol bleidiol, ac mae gwleidyddion o bob plaid ledled y DU wedi ymgyrchu i ddiogelu cofebion rhyfel yn well. Maent yn rhan hanfodol o'n gwead diwylliannol a chymdeithasol, ac mae'n bwysig ein bod yn anrhydeddu aberth ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad. Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog ei hun yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu cofebion rhyfel, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y ddeddfwriaeth honno pan ddaw'r manylion i'r amlwg.
Yn yr Alban, cefnogodd Aelodau Llafur o Senedd yr Alban dros yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, sef Rhoda Grant a David Stewart, alwadau am fwy o warchodaeth i gofebion rhyfel. Mae Aelod o'r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban, Gillian Mackay, hefyd wedi siarad am warchod cofebion rhyfel yn ddiweddar ar ôl i gofeb ryfel yn Motherwell gael ei fandaleiddio am yr eildro mewn ychydig wythnosau yn unig. Ac yma yng Nghymru, mae Gweinidogion wedi ymrwymo dro ar ôl tro i wneud mwy i warchod ein cofebion rhyfel.
Mae'n hanfodol fod cenedlaethau'r dyfodol yn cofio'r rhai a fu farw dros ein rhyddid ac yn dysgu o ryfeloedd blaenorol fel na chânt eu hailadrodd eto. Felly, rwy'n annog y Dirprwy Weinidog yn gryf i flaenoriaethu'r mater hwn ac ymrwymo i wneud popeth y gellir ei wneud i ddiogelu a chynnal y cofebion hyn wrth iddynt ddod o dan fygythiad cynyddol.
Nawr yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan Gymru oddeutu 5,000 o gofebion rhyfel o bob lliw a llun, o barciau a gerddi i gerfluniau a senotaffau. A gwyddom fod pob cofeb ryfel yn unigryw yn ei ffordd ei hun; mewn rhai achosion, efallai mai'r enwau a restrir ar gofeb yw'r unig gofnod o aberth yr unigolyn hwnnw. Maent hefyd yn bwynt ffocws pwysig yn ein cymunedau lleol sy'n cael gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf bwriadau da a gwaith caled llawer o bobl, mae'n dal yn wir fod cofebion rhyfel yn parhau i fod yn agored i'r tywydd ac i amser, a hyd yn oed yn waeth na hynny, mae rhai wedi cael eu fandaleiddio a'u haflunio.
Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio yn ôl ym mis Chwefror pan gafodd cofeb ryfel yn y Rhyl ei fandaleiddio â swasticas a graffiti gwrth-semitig. Dangosodd y fandaliaeth honno'r dirmyg mwyaf i'r rhai a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru heddiw yn rhoi'r ymrwymiad cryfaf posibl i ddiogelu a gwarchod ein cofebion ar gyfer y dyfodol. Yn ôl yn 2012 ac eto yn 2019, cyflwynais lawer o'r un dadleuon ag y byddaf yn eu rhoi heddiw i Lywodraeth Cymru. Ar y pryd, er bod pob ymateb i'r ddadl yn ddiffuant a chydymdeimladol, nid yw cofebion rhyfel Cymru ronyn yn fwy diogel heddiw nag oeddent bryd hynny.