1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Medi 2021.
1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi addysg bellach yn ystod y pandemig yng Nghymru? OQ56895
Llywydd, drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector drwy weithio mewn partneriaeth agos, cyd-gynhyrchu canllawiau hanfodol, addasiadau COVID i drefnau cymwysterau, a darparu dros £100 miliwn o gyllid ychwanegol i ymateb i effaith y coronafeirws ar staff a myfyrwyr.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae effaith y pandemig ar ddysgwyr yng Nghymru wedi bod yn ddigynsail. Mae disgyblion wedi wynebu trafferthion enfawr ac mae llawer wedi gweld tarfu ar eu cynlluniau mwyaf trwyadl a'u llwybrau gyrfaol heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mewn astudiaeth ddiweddar ar y sector addysg bellach, canfu'r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol fod cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau wedi eu taro yn anghymesur gan y pandemig. Ledled y DU, mae'r niferoedd sy'n dilyn cyrsiau galwedigaethol, fel peirianneg ac adeiladu, wedi gostwng, a gostyngodd nifer y bobl ifanc a ddechreuodd brentisiaethau newydd 46 y cant yn 2020 o'i gymharu â 2019.
Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn cytuno na ddylai neb gael ei adael ar ôl yn ein hadferiad, ac rwy'n falch o uchelgais Llywodraeth Cymru o ran prentisiaethau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n amddiffyn y disgyblion sydd wedi bod trwy gymaint dros y 18 mis diwethaf. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y rhai y tarfwyd ar eu cynlluniau addysgol yn cael eu cefnogi a'u bod nhw'n cael pob cyfle i ailgychwyn?
Llywydd, rwy'n diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn pellach yna, ac, wrth gwrs, mae'n iawn bod y sefyllfa i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio cyrsiau galwedigaethol neu i ddechrau prentisiaethau wedi bod yn arbennig o ansicr dros y 18 mis diwethaf oherwydd bod nifer o'r cyfleoedd y byddai'r bobl ifanc hynny wedi chwilio amdanyn nhw yn y gweithle wedi eu tarfu gan achosion o gau oherwydd y coronafeirws. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld cyfran fwy o ddysgwyr yn dewis astudio cyrsiau Safon Uwch mewn lleoliadau Safon Uwch gan nad oes gennych chi'r un lefel o darfu posibl ar yr elfen alwedigaethol. Rydym ni'n disgwyl y bydd y ffenomena hynny yn parhau i ddechrau'r flwyddyn hon. Gan fod y sefyllfa yn ansicr iawn, a gydag adferiad cryf iawn yn yr economi, pan fydd mwy o gyfleoedd yn y gweithle yn dechrau dod i'r amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £5 miliwn arall i golegau addysg bellach i ganiatáu iddyn nhw recriwtio dysgwyr ychwanegol pe bai pobl yn newid eu meddyliau yn ystod tymor yr hydref ac yn dychwelyd i'r llwybr galwedigaethol a phrentisiaethau.
Rwy'n ategu yn gryf, Llywydd, yr hyn a ddywedodd Jayne Bryant am bwysigrwydd addysg alwedigaethol a llwyddiant y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru, a bydd y ddwy yn cael eu cefnogi gan fesurau pellach dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Roedd yr argymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, a gyhoeddwyd gan Colegau Cymru ym mis Mawrth, yn cynnwys adeiladu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r effaith ganlyniadol ar lwybrau dysgu 14 i 19 oed i ddarparu sail gyfreithiol i ddysgwyr 14 i 16 oed symud ymlaen i lwybrau galwedigaethol a thechnegol a ddarperir yn annibynnol gan sefydliadau addysg bellach, a'r cyllid angenrheidiol i gynorthwyo'r dysgwyr hyn. Mae'n flynyddoedd lawer bellach ers i'r Ceidwadwyr Cymreig alw yn gyntaf am greu dwy ffrwd addysg gyfartal, gan ddechrau yn 14 oed, un academaidd ac un alwedigaethol, un ochr yn ochr â'r llall, gan roi cyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau pwysig cyn cychwyn ar eu dewis o lwybr gyrfa. Sut felly mae eich Llywodraeth chi yn ymateb i'r argymhelliad hwn gan Colegau Cymru, a pha ymgysylltu y mae'n ei wneud gyda'r sector addysg bellach ar hyn?
Llywydd, wel, yn sicr nid yw'r dymuniad i weld parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd wedi ei neilltuo i'r Blaid Geidwadol. Yr oedd yno ym 1945, yn niwygiadau'r Llywodraeth Lafur i addysg yn yr oes honno hefyd. Rwy'n cefnogi yn gryf y gred bod pobl ifanc sy'n dewis dilyn cyrsiau galwedigaethol, cyrsiau prentisiaeth, fel y dywedodd Jayne Bryant, y dylid ystyried eu bod nhw yn llwybrau yr un mor bwysig a'r un mor llwyddiannus i'r bobl ifanc hynny er mwyn llunio eu dyfodol. Ac o ran cynigion Colegau Cymru, wel wrth gwrs mae'r cwricwlwm newydd yn darparu, o 14 oed ymlaen, fynediad cyfartal at y ddau gwrs hynny, a byddwn ni yn parhau i weithio gyda'r sector. Roedd yn ddiddorol i mi weld y blaenoriaethau a awgrymodd Colegau Cymru i'r pwyllgor newydd yn y fan yma, ar gyfer ei raglen waith yn y maes hwn, gan edrych ar sgiliau technegol pellach a sgiliau technegol uwch yn y sector addysg bellach, i wneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi pobl ifanc ar gyfer y prentisiaethau newydd a dysgu galwedigaethol newydd y dyfodol a fydd yn dod i'r amlwg yn y diwydiannau dros y blynyddoedd i ddod.