1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Medi 2021.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau brys yn sir Benfro? OQ56863
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae'r gwasanaethau brys yn sir Benfro yn parhau i weithio yn gydweithredol i ddiwallu anghenion pobl leol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus.
Prif Weinidog, yn 2014, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog iechyd ar y pryd, fe wnaethoch chi gau yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, ac fe wnaethoch chi wrthod honiadau bryd hynny y gallai effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Ac eto, efallai eich bod chi wedi gweld adroddiadau y bydd asesiadau brys pediatrig yn cael eu tynnu o ysbyty Llwynhelyg bellach tan o leiaf y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i blant y mae angen triniaeth frys arnyn nhw deithio i Glangwili, gan roi pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans lleol, sydd, ar ben hynny, yn wynebu gostyngiad posibl i gapasiti, o saith i lawr i bump, sydd, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol. Nawr, bydd y gostyngiad hwn yn cael effaith ddifrifol iawn ar bobl sir Benfro ac, yn wir, ar staff ambiwlans. Ac o gofio y bydd y fyddin yn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i leihau'r cymorth hwn. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn y bydd tynnu gwasanaethau pediatrig o ysbyty Llwynhelyg yn cael effaith ddifrifol ar blant a phobl ifanc, yn ogystal ag ar gymorth ambiwlans? Ac a wnewch chi ymyrryd yn awr i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau pediatrig hyn ar gael yn ysbyty Llwynhelyg ac nad ydym yn gweld gostyngiad i wasanaethau ambiwlans hirdymor yn sir Benfro?
Wel, Llywydd, mae'r cwestiynau atodol yna yn gybolfa o ddyfalu wedi ei gyflwyno fel ffaith. [Torri ar draws.] Rwy'n gwbl ymwybodol o'r hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi ei gyhoeddi, Mr Davies, ac ni wnaeth gyhoeddi yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Felly, rwy'n gwbl ymwybodol o'r hyn a gafodd ei gyhoeddi, ac rwy'n hapus i gywiro'r cofnod, o ystyried yr hyn yr ydych chi newydd ei awgrymu.
Gadewch i mi fynd at ddechrau eich cwestiwn. Mae yn llygad ei le, Llywydd, fy mod i yn wir, yn ôl yn 2014, wedi derbyn argymhelliad y colegau brenhinol, wedi derbyn argymhelliad y grŵp arbenigol a gafodd ei sefydlu i adolygu gwasanaethau yn Llwynhelyg, wedi derbyn eu hargymhelliad y dylid canolbwyntio gwasanaethau arbenigol yng Nglangwili, er diogelwch plant yn y rhan honno o sir Benfro. Rwy'n falch iawn yn wir fy mod i wedi derbyn yr argymhellion hynny, er gwaethaf ei wrthwynebiad ei hun iddyn nhw ar y pryd.
Yr hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi ei ddweud, Llywydd, yw na fydd y trefniadau a roddwyd ar waith ar 24 Mawrth 2020 yn cael eu newid. Felly, mae'r Aelod yn awgrymu i bawb bod yna ryw newid newydd i'r gwasanaethau. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud, ar 24 Mawrth 2020, ei fod wedi gwneud addasiadau oherwydd y coronafeirws; ni fydd yr addasiadau hynny yn newid. Yna, mae'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd ar lawr y Siambr yr wythnos diwethaf—sibrydion di-sail bod yr adolygiad o'r roster yn mynd i leihau'r gwasanaeth ambiwlans sydd ar gael yn sir Benfro. Nid wyf i wedi gweld dim i gadarnhau hynny. Mae'r adolygiad o'r roster yn broses barhaus, mae'n ymarfer cenedlaethol nid lleol, ei fwriad yw gwneud yn siŵr bod criwiau lleol yn y lle iawn i ymateb i anghenion y poblogaethau hynny, a dyna fydd yr adolygiad yn parhau i'w wneud.
Gweinidog, roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynghylch mynediad at ddeintyddion y GIG yn ardal Hywel Dda. Cynhaliodd Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda rai ymarferion siopa dirgel yn gynharach eleni, a chanfu fod rhai practisau wedi dweud wrthym ni fod ganddyn nhw restrau aros hir am ofal GIG—rhai hyd at dair blynedd o hyd. O'r 45 practis y gwnaethon nhw siarad â nhw, roedd llai na 50 y cant yn derbyn cleifion GIG newydd, a chadarnhaodd tri phractis ar unwaith y gellid gweld cleifion preifat newydd ar unwaith.
Rwyf i hefyd wedi cael trigolion yn cysylltu â mi ynglŷn â'r anawsterau o ran cael gafael ar ddeintydd GIG, gan gynnwys trigolion sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar ofal deintyddol brys. Mae'n achosi pryder sylweddol, fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau penodol y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar y cyd â'r bwrdd iechyd i wella mynediad at ddeintyddion GIG ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch yn fawr iawn i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.
Mae gwaith Llywodraeth Cymru ym maes deintyddiaeth yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo'r proffesiwn i adfer ar ôl effaith y coronafeirws, a oedd yn fwy ym maes deintyddiaeth na bron i unrhyw broffesiwn gofal sylfaenol arall, oherwydd natur deintyddiaeth: y gweithdrefnau cynhyrchu aerosol y mae'r deintyddion yn dibynnu arnyn nhw; lefel y cyfarpar diogelu personol y mae'n rhaid i staff deintyddol ei wisgo; yr effaith ar anghenion awyru, lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi symiau sylweddol o gyfalaf i gynorthwyo practisau deintyddol i allu gwella awyru ac, felly, i allu gweld mwy o gleifion. Mae'n dal i fod yn wir bod yn rhaid gadael mwy o amser rhwng pob claf, oherwydd bod yn rhaid glanhau practisau deintyddol, meddygfeydd, i wahanol safon er mwyn osgoi'r risg y bydd deintyddion yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws neu y bydd yn cael ei drosglwyddo i gleifion.
O'r wythnos hon, Llywydd, rydym ni yn ôl i 30,000 o bobl yn cael eu gweld bob wythnos yn bersonol ledled Cymru, a 2,000 o bobl eraill yn cael cyngor neu ymgynghoriad drwy ddull rhithwir gan bractisau deintyddol. Nid yw'n ddigon. Ceir rhannau o Gymru lle mae pobl yn dal i orfod aros yn rhy hir, ond gan ein bod ni'n dal ar y daith allan o'r coronafeirws a bod yn rhaid cymryd y camau diogelu hynny, mae arnaf i ofn mai blaenoriaethu yn ôl angen clinigol yw'r ffordd y gall deintyddion gynnig apwyntiadau a mynediad at eu gwasanaethau o hyd.