1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Medi 2021.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gwyliau gartref ar economi Cymru yn ystod tymor twristiaeth 2021? OQ56850
Diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn, Llywydd. Mae arwyddion cynnar yn cadarnhau yr hyn y bydd llawer o'r Aelodau wedi ei weld drostyn nhw eu hunain: bod hwn wedi bod yn haf bywiog i'r sector twristiaeth yng Nghymru, gyda nifer uchel o bobl o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig yn dewis mwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac, yn ddi-os, mae Cymru wedi elwa'n economaidd ar y cynnydd i wyliau cartref eleni. Mae gennym ni wlad mor wych i'w harddangos, felly sut gall Llywodraeth Cymru annog pobl i barhau i fynd ar wyliau yng Nghymru wrth i'r farchnad dwristiaeth fyd-eang agor eto yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, rwy'n teimlo'n hyderus—a dywedodd pobl hyn wrthyf i droeon dros yr haf pan wnes i gyfarfod â nhw ar wyliau yng Nghymru—y byddan nhw, ar ôl darganfod Cymru, yn awyddus i ddod yn ôl. Mewn ffordd, dyna'r hysbyseb orau, onid yw, pan fydd pobl yn dod yma, yn gweld popeth sydd gennym ni i'w gynnig ac yn sylweddoli yn union sut gyfle sydd i ddod a chael gwyliau da yng Nghymru. Nodau strategaeth dwristiaeth Cymru yw lledaenu twristiaeth yng Nghymru fel ein bod ni'n agor rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys llawer o rannau o etholaeth yr Aelod ei hun, i bobl sy'n dod i ymweld â ni; ein bod ni'n ymestyn y tymor er mwyn i chi allu cynnig swyddi cynaliadwy i bobl yr ydym ni eisiau iddyn nhw weithio ym maes twristiaeth a lletygarwch; ac yna byddwn ni'n dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud yn siŵr bod gan y bobl sydd yn dod i ymweld â Chymru ffyrdd da o wario eu harian a chyfrannu at yr economi leol. Mae'n ymddangos i mi fod y tri pheth hynny, Llywydd, yn cael eu crynhoi yn dda iawn yn y profiad gwifren wib yn etholaeth yr Aelod ei hun. Roeddwn i'n falch iawn o fod yno gyda hi yn gynharach eleni—teyrnged enfawr, os caf i ddweud am eiliad, i Tyrone O'Sullivan, a arweiniodd fenter glofa'r Tŵr ac sydd wedi gwneud cymaint i fod yn benderfynol y bydd etifeddiaeth hirdymor yn cael ei gadael ar y safle hwnnw, gan greu swyddi a ffyniant i bobl leol. Mae'n dod â phobl i'r ardal, mae'n ymestyn y tymor, mae'n rhoi rhywbeth cyffrous i bobl wario eu harian arno, ac rwy'n credu ei fod yn dangos enghraifft wych iawn i ni o sut y gallwn ni wneud yn union yr hyn a ofynnodd Vikki Howells yn ei chwestiwn atodol.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb blaenorol? Rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n credu bod gan Gymru lawer i'w gynnig, a boed yn draethau gwych Gŵyr yn fy rhanbarth i neu wifren wib yng Nghwm Cynon, rwy'n credu po fwyaf o bobl sy'n dod i Gymru y mwyaf y maen nhw'n cael profiad ohoni ac yn ei mwynhau ac yn dymuno dod yn ôl. Ond ar yr adeg hon y llynedd roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau cyflwyno cyfyngiadau symud lleol ledled Cymru, ac, o ganlyniad, fe wnaeth busnesau twristiaeth ac economïau lleol yn yr ardaloedd hynny ddioddef yn ofnadwy, ac mae rhai busnesau yn ofni'n fawr na allen nhw oroesi cyfnod arall o gyfyngiadau symud. Felly, er i'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd a bywydau pobl chwarae rhan yn y penderfyniad hwnnw y llynedd, diolch byth, eleni, oherwydd llwyddiant aruthrol y cynllun brechu ledled y DU, mae'r cysylltiad rhwng achosion a'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty wedi torri. Felly, o ystyried y llwyddiant hwn, yn ogystal â dechrau'r rhaglen atgyfnerthu sydd ar fin dechrau, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r busnesau twristiaeth hyn na fydd cyfyngiadau symud lleol yn dilyn yn ddiweddarach eleni?
Wel, mae arnaf i ofn, Llywydd, nad yw pethau mor syml ag y mae'r Aelod yn ei awgrymu. Mae'n dweud bod brechu wedi torri'r cysylltiad rhwng mynd yn sâl a mynd i'r ysbyty, ac nid yw hynny'n wir. Mae wedi diwygio'r cysylltiad, diolch byth, ac mae wedi lleihau yn sylweddol y risg y bydd pobl sy'n mynd yn sâl yn mynd i'r ysbyty yn y pen draw, ond yn sicr nid yw wedi ei dorri. Fe wnaethoch chi glywed cwestiynau arweinydd yr wrthblaid yn tynnu sylw yn gwbl briodol at y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd heddiw—pwysau sy'n cael eu gwaethygu gan y ffaith bod gennym ni dros 500 o bobl o bob 100,000 o bobl yng Nghymru sydd yn sâl gyda'r coronafeirws bellach, 2,500 o achosion newydd ddoe, nifer cynyddol o bobl mewn gwelyau â'r coronafeirws, pwysau gwirioneddol yn ein maes gofal dwys acíwt, a hyn i gyd yn cael ei gynnal gan staff sydd wedi ymlâdd o'r profiad o ofalu amdanom ni i gyd yn ystod y 18 mis diwethaf.
Nid wyf i eisiau gweld cyfyngiadau symud yn dychwelyd yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio yn sicr na fydd angen offeryn di-awch cyfyngiadau symud, ond, yn y pen draw, pe bai amrywiolyn newydd o'r feirws, pe bai'r gwasanaeth iechyd mor ymroddedig i ymdrin â'r coronafeirws gan fod y niferoedd yn parhau i gynyddu, ni fydd y Llywodraeth Cymru hon yn troi ein cefn ar unrhyw fesurau sydd, yn y pen draw, yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl, a thrwy wneud hynny, diogelu'r economi hefyd.