1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Medi 2021.
A gaf i ddatgan fy mod i'n dal yn gynghorydd sir yn sir y Fflint? Diolch.
4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu awdurdodau lleol yng Nghymru? OQ56878
Diolchaf i Carolyn Thomas am hynny, Llywydd. Ynghyd â'n partneriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ein blaenoriaeth o hyd yw cynorthwyo cynghorau i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus gwych y maen nhw'n eu darparu, mewn meysydd fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, tai a'r amgylchedd.
Diolch. Diolchaf i'r Prif Weinidog am y berthynas gadarnhaol iawn sydd wedi cael ei meithrin rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae'r berthynas wedi sicrhau bod gwasanaethau lleol wedi parhau i gael eu darparu i gymunedau ledled Cymru gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel cynghorydd yn sir y Fflint, rwyf i wedi gweld effaith 10 mlynedd o gyni cyllidol ar lywodraeth leol. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'n rhaid i awdurdodau lleol barhau i ddarparu gwasanaethau o dan bwysau cynyddol, fel gofal iechyd cymdeithasol, cyflogau a chost gynyddol tanwydd, ac nid oes rhagor o arbedion i'w cael. Sut gallwch chi sicrhau bod y setliad llywodraeth leol yn adlewyrchu'r pwysau parhaus ar awdurdodau lleol? Diolch.
Wel, Llywydd, diolchaf i Carolyn Thomas am hynny. Ar ôl sôn am ymdrechion arwrol staff yn ein gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig, hoffwn i ddweud hefyd fod yr holl bobl hynny sy'n gweithio i'n hawdurdodau lleol—yr athrawon a'r staff cymorth yn ein hysgolion, y gweithwyr cymdeithasol a'r gweithwyr gofal sy'n gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain, y bobl sydd wedi parhau i gasglu'r sbwriel ar ein strydoedd bob un dydd yn ystod y coronafeirws—maen nhw, hefyd, wedi bod ar y rheng flaen yn sicr. Ac yn ein trafodaethau gyda llywodraeth leol, rydym ni bob amser yn ceisio cydnabod y pwysau y mae cyni cyllidol wedi eu hachosi a'r elw ar y buddsoddiad y gallwn ni ei wneud.
Nawr, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi gallu darparu setliadau ar gyfer llywodraeth leol—cynnydd o 4.3 y cant yn 2019-20, setliad cyffredinol o 3.8 y cant yn 2020-21—sydd wedi gwneud rhyw fymryn i gydnabod y blynyddoedd a aeth o'u blaenau, y blynyddoedd hir hynny o gyni. Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â'r is-grŵp cyllid, y cyd-grŵp sydd gennym ni gyda CLlLC, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr annibynnol, i ystyried yr holl wahanol bwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu ac i weld sut gallwn ni ymateb iddyn nhw yn y rownd gyllideb. Bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei gynnal ar 18 Hydref, Llywydd, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth, ar ôl mynychu'r cyfarfodydd hynny fy hun, y bydd anghenion awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael eu cyflwyno yn gadarn gan gynrychiolwyr llywodraeth leol Cymru.
Hoffwn i ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Powys.
Prif Weinidog, yn fy etholaeth i, yn Ystradgynlais, maen nhw wrthi'n codi arian i geisio sicrhau'r caeau chwarae ar ôl i'r brydles ar gaeau chwarae'r Welfare Ground ddod i ben. Mae angen iddyn nhw ddod o hyd i £100,000 i sicrhau'r brydles. Mae angen i'r gymuned gael mynediad at fannau hamdden i wella iechyd meddwl a llesiant cyffredinol pobl, sy'n rhan allweddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Oherwydd tanariannu awdurdodau lleol gwledig, nid oes gan gynghorau fel fy un i ym Mhowys unrhyw gyllid refeniw na chyfalaf dros ben ar gael i gynorthwyo prosiectau gwych fel hyn yn Ystradgynlais. Prif Weinidog, yn dilyn cynnydd Llywodraeth Cymru i'r gyllideb gan Lywodraeth y DU, a wnewch chi geisio darparu arian wedi'i neilltuo i gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod asedau cymunedol gwych yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i gadw ein cymunedau gyda'i gilydd? Diolch, Llywydd.
Llywydd, nid dyna fu dull Llywodraeth Cymru erioed oherwydd nid dyna'r fu'r dull y mae awdurdodau lleol erioed wedi ei awgrymu i ni. Rwy'n dychmygu y byddai ei gyd-aelodau ar Gyngor Sir Powys yn ddig pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut y dylen nhw wario'r arian sydd ar gael iddyn nhw. Gallwch chi ddychmygu, pe baem ni'n dechrau neilltuo o'r fan hon benderfyniadau gwario ei awdurdod lleol—a bydden nhw'n iawn, oherwydd nid dyna'r ffordd y dylai'r system weithio. Y broblem y mae trigolion Powys yn ei hwynebu yw effaith 10 mlynedd o gyni gan ei blaid ef, a wnaeth leihau yr arian a oedd ar gael i awdurdodau lleol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yma yng Nghymru, mae awdurdodau lleol wedi eu gwarchod rhag y storm honno gan y penderfyniadau a wneir yma yn y Senedd hon. Pe baen nhw wedi cael eu hamlygu fel y mae eu cymheiriaid yn Lloegr wedi eu hamlygu i benderfyniadau Gweinidogion llywodraeth leol Ceidwadol, ni fydden nhw'n codi arian i ddiogelu ardaloedd chwarae, bydden nhw'n eu gwerthu yn y ffordd y mae ei blaid ef wedi ei wneud mewn mannau eraill.
Mae'n rhaid i minnau ddatgan buddiant hefyd: rwy'n gynghorydd cymuned ym Mhenyrheol, Trecenydd ac Energlyn.
Hoffwn i dynnu sylw at y ddarpariaeth lai o ofal dydd ar gyfer oedolion anabl ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I rai, mae oriau wedi gostwng o 30 awr yr wythnos i ddim ond chwech, gostyngiad o 80 y cant i'r cymorth sydd wedi bod yn niweidiol iawn i oedolion anabl a'u teuluoedd. Mae grŵp Plaid Cymru ar y cyngor bellach wedi galw am foratoriwm ar y newidiadau hyn. Ychydig ddyddiau yn ôl, siaradais â thad sy'n gorfod ystyried rhoi ei fab mewn gofal preswyl gan na all ef a'i wraig ymdopi mwyach. Nid yn unig y byddai hyn yn peri pryder mawr i bawb dan sylw, ond byddai'n costio llawer mwy i'r awdurdod lleol yn y pen draw na phe baen nhw'n parhau i dyfu'r ddarpariaeth gofal dydd lawn-amser.
Prif Weinidog, a oes canllawiau y gall eich Llywodraeth eu cyflwyno i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod oedolion anabl a'u teuluoedd yn cael y cymorth a'r seibiant y maen nhw'n eu haeddu, sydd eu hangen arnyn nhw, ac sy'n iawn iddyn nhw? A oes unrhyw un yn y Llywodraeth yn monitro pa un a yw awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaeth statudol o ran pobl anabl ac a oes cyllid digonol ar waith iddyn nhw wneud hynny? Diolch.
Llywydd, rwyf i wedi dilyn y ddadl ddiweddar am wasanaethau gofal dydd yng Nghaerffili ac rwy'n eithaf sicr y bydd y rhai sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau anodd hynny wedi bod yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud heddiw ac ar safbwyntiau eu cymunedau lleol. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar yr holl faterion hyn ac yn monitro gwariant awdurdodau lleol drwy amrywiaeth gymhleth o lwybrau, gan gynnwys ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Yn y pen draw, penderfyniadau lleol yw'r rhain sy'n cael eu gwneud gan y bobl hynny sydd agosaf at y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, gan ystyried, fel y mae cyngor Caerffili yn ei wneud rwy'n siŵr, safbwyntiau eu trigolion lleol eu hunain.