Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 21 Medi 2021.
Fe wnaeth y pandemig darfu ar wasanaethau iechyd, a hynny ar draws y system gyfan. Ond cafwyd cyfle hefyd, yn sgil y pandemig, i ailgynllunio'r ffordd rŷn ni'n darparu gwasanaethau, a sicrhau bod gyda ni fodelau sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, gyda phobl yn dechrau teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chael gofal mewn lleoliadau ar wahân i'r ysbyty, mae angen i ni nawr, yn fwy nag erioed, fabwysiadu model rhannu gofal wrth ddarparu gofal iechyd llygaid. Mae'r adnoddau sydd gan wasanaeth iechyd Cymru yn gyfyngedig, felly mae angen manteisio ar y cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau, yn y ffordd sydd wedi ei chyflwyno yn y ddogfen 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol'.
Rhaid i'r gwasanaeth iechyd fanteisio ar ymarferwyr anfeddygol ond profiadol, drwy symud mwy o wasanaethau i ofal sylfaenol. Mae'r ddogfen 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol' yn seiliedig ar waith ac ymgynghori helaeth. Cafodd y ddogfen ei chymeradwyo gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Optometreg Cymru a Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, ac mae gwaith ar y gweill nawr i ystyried ymhellach y costau posibl o ddatblygu'r dull y cytunwyd arno ar gyfer y dyfodol.
Er mwyn helpu i symud y ddarpariaeth gwasanaethau i ofal sylfaenol, fe fydd yn rhaid diwygio'r contract optometreg, a chynyddu nifer yr optometryddion sydd â chymwysterau ychwanegol. I gyflawni'r canlyniad gorau wrth fuddsoddi, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod â rhanddeiliaid i sicrhau bod gwasanaethau optometreg yn cael eu hariannu'n briodol. Byddwn ni fel cymdeithas yn elwa drwy feithrin gweithlu sydd â'r sgiliau priodol, sy'n sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn haws, ac yn cael canlyniadau gwell.
Yn wahanol i'r proffesiynau eraill, fel gwasanaethau meddygol cyffredinol, fferylliaeth a deintyddiaeth, does gan optometreg ddim contract. Mae cyfle unigryw gyda ni, felly, i benderfynu ar y dull gorau ar gyfer y dyfodol. Rŷn ni wedi ystyried ein ffordd o weithredu yn y gorffennol, i sicrhau bod newidiadau deddfwriaethol yn cael eu gwneud i gael y canlyniadau gorau i gleifion ac i weithwyr iechyd proffesiynol, a dŷn ni wedi dysgu gwersi o hyn. Os bydd y maes optometreg yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mewn partneriaeth newydd, strategol a chydweithredol, a fydd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi cael eu gosod yn barod, bydd gofal iechyd llygaid yn sicr o wella yn y dyfodol.
Wrth gwrs, fe fydd angen monitro trefniadau'r cytundeb newydd yn ofalus. Byddwn ni'n sefydlu pwyllgor cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid i Gymru, pwyllgor sydd â chylch gorchwyl clir a fydd yn cynnwys rheoli perfformiad yn erbyn rhwymedigaethau'r contract a chanlyniadau i gleifion y gellir eu cyflawni. Yn gyffredinol, os ydym ni am lwyddo, rhaid inni weld newid mewn ymddygiad gan y cyhoedd. Rhaid cytuno i fynd ati bob amser wrth ystyried beth rydym yn ei wneud o ran amgylchiadau'r claf. Nid yw cleifion bob amser yn deall y gwahaniaeth rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond maen nhw yn deall bod angen gofal iechyd llygaid da.
Mae'r dulliau gweithio a'r llwybrau clinigol newydd yn cael eu disgrifio yn y ddogfen 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol'. Gyda chontract gwasanaethau offthalmeg cyffredinol newydd Cymru yn sylfaen iddo, mae'r dull arloesol hwn ar gyfer y dyfodol yn sicrhau mai gwasanaeth gofal llygaid Cymru fydd y gwasanaeth mwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig i gyd. Diolch.